Event Info
Michael Curtiz, UDA 1954, 119 munud
Mae Bing Crosby a Danny Kaye yn ymuno â Rosemary Clooney a Vera-Ellen i berfformio sioe Nadolig yng nghefn gwlad Vermont. Yno, maent yn dod ar draws hen gomander y bechgyn o gyfnod y rhyfel sydd bellach yn cael trafferthion ariannol. Mae ei dafarn wledig hyfryd yn methu, felly mae'r pedwarawd yn cynllunio gwyrth Nadoligaidd: sioe gerddorol llawn hwyl sy'n siŵr o ddenu'r ymwelwyr yn ôl yn eu heidiau! Y ffordd berffaith i gloi'r Nadolig gyda chaneuon clasurol Irving Berlin.
Bydd y sgriniad olaf ar y 23ain yn cynnwys cwpan o win cynnes a mins pei am ddim!