Event Info
Yorgos Lanthimos, UDA 2025, AD, 118 munud
Mae’r ffilm ddiweddaraf oddi wrth gyfarwyddwr Poor Things yn serennu Jesse Plemons fel dyn ifanc difreintiedig sy'n herwgipio Prif Swyddog Gweithredol pwerus (Emma Stone). Wedi'i argyhoeddi ei bod hi'n estron sy’n benderfynol o ddinistrio'r blaned Ddaear, mae’n fodlon gwneud beth bynnag sydd ei angen i ddilyn ei argyhoeddiadau. Cyfuniad cymhleth, difyr o sylwebaeth gymdeithasol a hiwmor du oddi wrth un o gyfarwyddwyr mwyaf diddorol y sinema gyfoes.
15: Mae'r ffilm hon wedi cael ei chofrestru "15". Mae hynny'n golygu ei fod yn anaddas i unrhyw un sy'n iau na hynny. Mae'n drosedd caniatáu i unrhyw ei weld o dan yr oedran hwnnw, felly os nad ydych chi'n edrych yn ddigon hen, bydd angen gwireddiad oedran priodol arnoch i fynd i mewn. Diolch yn fawr a mwynhewch y ffilm.