Ewch at gynnwys

Dau artist sydd yn archwilio tirlun trwy baent, gan dynnu’n ddwfn o arsyllu, atgofion a’r profiad o fod yn y dirwedd, a cherdded drwyddi. Mae Sam Vicary yn cyflwyno safbwyntiau lluosog gan edrych allan yn aml trwy ffenest ar y dirwedd y tu hwnt, tra bod Catrin Llwyd yn creu profiad o weld y dirwedd a’u hadeiladau o’r tu allan, gan edrych tu mewn. Mae’r ddwy yn creu gweithiau tawel, myfyriol sydd yn cyfleu ennyd penodol – adegau pan mae’r meddwl yn dawel ac mae’r byd yn ymddangos yn llonydd am eiliad.

(Llun: Gwanwyn Garn Fawr, Sam Vicary)