Event Info
Tymor 2: cwrs 12 wythnos 14.01.2025 - 08.04.2025 (dim gwers yn ystod hanner tymor)
Nos Fawrth 6:15 - 8:15yhUned 5&6Gwahoddir dechreuwyr ac
animeiddwyr profiadol fel ei gilydd i ddod â'u prosiectau unigryw eu hunain yn
fyw yn ein stiwdio animeiddio! Bydd mynychwyr yn dechrau mapio eu syniadau yn
eu dyddlyfrau animeiddio personol eu hunain ac yn penderfynu ar ddull o'u dewis
i roi eu prosiectau ar waith: golygfeydd traddodiadol wedi'u tynnu â’r llaw yn defnyddio
papur, padiau golau a chefndir wedi'i baentio; animeiddiadau wedi'u creu'n
ddigidol gan ddefnyddio amrywiaeth o apiau (sy’n rhad ac am ddim ar ddyfeisiau
personol) a’r cyfrifiaduron yn ein stwidio, neu gerfluniau cymeriad wedi'u
gwneud â’r llaw a adeiledir o'r newydd gan ddefnyddio fframiau gwifren a chlai
aer-sych.Unwaith y mae eich prosiect yn
barod i animeiddio gallwch ddysgu sut i olygu eich gwaith gan ddefnyddio
meddalwedd golygu fideo i ychwanegu effeithiau a thraciau sain!
Am fwy o wybodaeth e-bostiwch Charlie ar chc63@aber.ac.uk