Event Info
Canllaw Oedran: 12+ oed
Rhediad: I’w ddilyn
Theatr Ieuenctid Canolfan y Celfyddydau sy’n perfformio No Regrets gan Gary McNair fel rhan o Ŵyl theatr genedlaethol Connections y National Theatre, 2025. Dros gyfnod o bum mlynedd, mae’r dramodydd Gary McNair wedi siarad â phobl o bob math sy’n byw mewn cyfnodau gwahanol yn eu bywydau, gan drafod y thema dyfaru gyda phob un. Mae’r ddrama yn rhannu rhai o’r canfyddydiadau difyr o’r sgyrsiau hynny. O’r doniol i’r dwys, tra’n archwilio’n perthynas â phethau y dyliem wedi eu gwneud, a’r pethau ry‘n ni’n dyfaru eu gwneud.
Anghenion Mynediad: A wnewch chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw anghenion mynediad a fyddai’n gofyn am seddi addas, neu os oes angen lle priodol i gadair olwyn yn yr awditoriwm.