Event Info
Pryd: Dydd Sadwrn yn wythnosol 09:30yb - 10:00yb
Oedran: 3 oed+
Lleoliad: Stiwdio Ddawns 3 + 4
Tiwtor: Miss Sarah
Mae Dechrau Dawnsio+ yn sesiwn dawns hwyliog a chyfeillgar i blant bach 3 oed+.
Mae’r sesiynau yn anelu at ddatblygu sgiliau corfforol, creadigol a chymdeithasol mewn amgylchedd hwyliog ac ymlaciol.
Mae’r sesiynau yn helpu i ysgogi eu dychymyg a chefnogi eu sgiliau cymdeithasol tra’n cael hwyl yn archwilio amrediad o symudiadau a chadw’n heini.