Event Info
Sêr Bach yr Ysgol Lwyfan (Oed 3-4) Dydd Iau 4:00 - 4:30yp
Tymor 2: cwrs 13 wythnos 09.01.2025 - 10.04.2025 (Dim gwers yn ystod hanner tymor)
Ystafell Ymarfer 1
Wedi'i gynllunio ar gyfer plant 3 a 4 oed, mae'r dosbarth hwn yn gyfle perffaith i feithrin hyder, hunanfynegiant a sgiliau sylfaenol mewn dawns ac actio. ‘Rydym yn deall pwysigrwydd meithrin y rhinweddau hyn o oedran cynnar, ac mae ein rhaglen wedi’i theilwra i wneud dysgu yn brofiad llawen a deniadol.Gwyliwch wrth i ddychymyg eich plentyn flodeuo, ei gydsymud corfforol wella, a'i hunanhyder gynyddu. Gydag arweiniad ein hyfforddwr gofalgar, byddant yn archwilio meysydd hudol dawns ac actio tra’n gwneud ffrindiau newydd mewn amgylchedd cefnogol.