Event Info
Canllaw Oedran: Croeso i bob oedran
Trefn Amseri: 55 munud ( dim toriad )
Mae anturiaethau rhyngweithiol Tom Fletcher ar gyfer y sawl sydd â dychymyg bywiog yn llamu o’r dudalen i’r llwyfan wrth i’r gyfres boblogaidd ‘Who’s in Your Book?’ ymddangos am y tro cyntaf fel sioe gerdd newydd sbon. Mae grŵp o berfformwyr yn paratoi i gychwyn eu sioe, ond yn fuan maent yn darganfod mai nid y nhw yw’r unig rai ar y llwyfan. Mae’r Anghenfil Bach eisiau bod yn rhan o'r hwyl hefyd! Wrth i’w ffrindiau Draig, Estron ac Ungorn gael gwahoddiad i ymuno ag ef, gallwch ddisgwyl comedi a llanast wrth iddynt helpu i greu sioe hudolus, gan ddysgu am lawenydd llyfrau a chyfeillgarwch ar hyd y ffordd. Yn anturiaeth 50 munud llawn egni sy’n cynnwys cerddoriaeth wreiddiol fywiog, mae’r sioe hon yn gyflwyniad perffaith i theatr fyw. Disgwyliwch ddigonedd o hwyl chwareus i'ch rhai bach wrth i'w hoff gymeriadau ddod yn fyw mewn sioe sy'n llawn momentau rhyngweithiol i'w mwynhau gyda'ch gilydd. Mae ‘na Anghenfil yn Eich Sioe... ac ni all aros i gwrdd â chi!
Canllaw Cynnwys: Mae’r llyfrau y mae’n seiliedig arno yn apelio i blant 2 – 6 oed.Mae croeso i fabis mewn breichiau (o dan 2 oed) dod a mwynhau'r sioe.
Anghenion Mynediad: A wnewch chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw anghenion mynediad a fyddai’n gofyn am seddi addas, neu os oes angen lle priodol i gadair olwyn yn yr awditoriwm.