Skip to content
Event Image
Mon 31 Mar
·
Cinema

Event Info

Cyfarwyddwr: Eryk Rocha, Gabriela Carneiro da Cunha Brasil/Yr Eidal, 2024, 110 munud Yanomam gydag isdeitlau Saesneg

Dechrau ar amser - dim hysbysebion

A hithau’n seiliedig ar eiriau pwerus y siaman a’r arweinydd Yanomami Davi Kopenawa, mae ‘The Falling Sky’ yn portreadu cymuned frodorol Watorikɨ wrth iddi gymryd rhan mewn defod angladd hollbwysig o’r enw Reahu - ymdrech ar y cyd i ddal yr awyr i fyny. Saif y ffilm fel beirniadaeth siamanaidd ffyrnig ar gloddio aur anghyfreithlon, y cymysgedd marwol o epidemigau a gyflwynwyd gan bobl o'r tu allan mae’r Yanomami yn galw’n “xawara”, a’r rheiny mae'r Davi’n galw y “bobl nwyddau.” Gan arddangos harddwch cosmoleg Yanomami a’i hysbrydion xapiri tra hefyd yn tynnu sylw at bwysigrwydd daearwleidyddol y bobl hyn, mae ‘The Falling Sky’ yn ein gwahodd i freuddwydio’n eang.

'One of the most necessary and scorching pieces of nonfiction storytelling in recent memory.' - Variety

Anghenion Mynediad: A wnewch chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw anghenion mynediad a fyddai’n gofyn am seddi addas, neu os oes angen lle priodol i gadair olwyn yn yr awditoriwm.

Event Image

Dates & Tickets

Dydd Llun 31 Mawrth, 2025
16:30