Eisiau archebu tocynnau i un o'n sioeau, dangosiadau neu ddigwyddiadau? Dyma sut…
Gallwch hefyd ddarganfod sut i wneud archeb grŵp a darllen ein cwestiynau cyffredin
Archebu tocynnau wyneb yn wyneb neu dros y ffôn
Swyddfa Docynnau Canolfan y Celfyddydau: 01970 62 32 32
Dydd Llun – Dydd Sadwrn 10yb – 8yh
Dydd Sul 1.30yh – 5.30yh
Mae peiriant ateb yn gweithredu y tu allan i oriau swyddfa ac mae hefyd yn cael ei ddefnyddio pan fydd aelodau o dîm ein Swyddfa Docynnau yn brysur. Gadewch eich enw a’ch rhif a byddwn yn eich ffonio’n ôl cyn gynted â phosibl.
Archebu ar-lein
Ar gyfer pob digwyddiad lle mae angen tocynnau, fe welwch ddolen ‘Archebu Nawr’ ar dudalen we’r digwyddiad. Nid oes unrhyw gostau cerdyn credyd ar gyfer archebu ar-lein. Gallwch ofyn i’ch tocynnau gael eu e-bostio atoch fel e-docyn, neu gallwch eu casglu yn y Swyddfa Docynnau. Os oes gennych chi ffôn clyfar does dim angen argraffu’r tocyn, gallwch chi ddangos eich ffôn i’n tywyswyr wrth ddod i mewn.
Os na fyddwch chi’n derbyn eich tocyn, ac nid yw yn eich ffolder e-bost sothach neu sbam, yna cysylltwch â ni.
Os ydych wedi archebu tocyn consesiwn ar-lein, cofiwch ddod â rhyw fath o ddilysiad hy cerdyn myfyriwr gyda chi i’w gasglu.
Archebion grŵp
Oes gennych chi lawer o ffrindiau, teulu mawr neu a ydych chi’n rhan o glwb neu ysgol? Rydym yn aml yn cynnig gostyngiadau ar docynnau i grwpiau o wyth neu fwy.
I holi am archeb grŵp, ffoniwch ein tîm yn y Swyddfa Docynnau ar 01970 62 32 32 neu e-bostiwch artstaff@aber.ac.uk. Byddwn yn gallu helpu i ddewis eich seddi ac ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.
Gallwn hefyd gadw byrddau ar gyfer eich grŵp yn ein caffi cyn neu ar ôl perfformiadau prynhawn a chyn perfformiadau gyda’r nos. Os ydych chi’n dod mewn grŵp mawr ac yn dymuno aros ymlaen ar ôl y sioe, rhowch wybod i ni ac fe gawn ni weld a allwn ni drefnu rhywbeth arbennig i chi wrth y bar.
Rydyn ni eisiau i chi gael amser da felly os oes unrhyw beth y gallwn ei wneud i helpu rhowch wybod i ni!
Cwestiynau Cyffredin
Mae celf a diwylliant i bawb. Ond os oes gennych chi ofyniad mynediad penodol, yn aml gall mwynhau ymweliad â theatr neu ganolfan gelfyddydol fod yn fwy cymhleth nag archebu tocynnau neu ddewis beth i’w wisgo. Mae Hynt yn gynllun mynediad cenedlaethol sy’n gweithio gyda lleoliadau ledled Cymru i wneud pethau’n glir ac yn gyson. Mae gan ddeiliaid cerdyn Hynt hawl i docyn am ddim ar gyfer cynorthwyydd personol neu ofalwr.
Os ydych yn meddwl eich bod yn gymwys i gael cerdyn HYNT yna bydd ein tîm yn y Swyddfa Docynnau yn hapus i’ch helpu gyda’ch cais neu gallwch wneud cais ar-lein yma
Ffoniwch neu e-bostiwch ein tîm Swyddfa Docynnau a byddant yn gallu archebu eich tocynnau dros y ffôn neu drwy e-bost.
Wrth archebu digwyddiad neu berfformiad, gallwch ddewis derbyn e-docynnau sy’n cael eu e-bostio atoch ar ôl i chi gyflwyno eich archeb. Ar ôl cyrraedd, gallwch osgoi’r rhes wrth y Swyddfa Docynnau drwy ddangos eich e-docynnau ar eich dyfais symudol i’n tywyswyr cyn mynd i’ch sedd.
Gellir cadw tocynnau yn eich enw chi a’u cadw am bedwar diwrnod, ac wedi hynny byddant yn cael eu rhyddhau i’w gwerthu. Ni ellir cadw tocynnau ar ddiwrnod y digwyddiad/dangosiad, ond rhaid talu amdanynt yn llawn wrth archebu. Bydd unrhyw docynnau na thalwyd amdanynt erbyn diwrnod y digwyddiad / dangosiad yn cael eu rhyddhau.
Os byddwch am unrhyw reswm yn canfod nad ydych yn gallu dod i berfformiad neu ddangosiad yr ydych wedi archebu tocynnau ar ei gyfer, gellir ad-dalu eich tocynnau fel nodyn credyd hyd at ddau ddiwrnod cyn y perfformiad. Fel arall gallwn gyfnewid eich tocynnau am berfformiad mwy addas o’r un sioe neu ffilm. Os bydd sioe wedi gwerthu allan, byddwn yn gwneud ein gorau i ail-werthu eich tocynnau heb unrhyw gost ychwanegol, ond nid yw hyn wedi’i warantu.
Gallwn gyfnewid eich tocynnau am berfformiad gwahanol o’r un sioe neu ffilm os oes argaeledd.
Deallwn fod cyrraedd yn hwyr weithiau yn anochel. Mae gan bob sioe bwyntiau hwyrddyfodiaid penodol. Er mwyn lleihau aflonyddwch, efallai y gofynnir i chi aros tan eiliad gyfleus yn y sioe cyn cael dod i mewn. Sylwch nad yw rhai cynyrchiadau yn caniatáu hwyrddyfodiaid.
Gellir rhoi ad-daliadau am gwrs byr gyda phedair wythnos o rybudd. Ar gyfer canslo’n hwyrach ni allwn gynnig ad-daliadau a byddwn yn dal i godi’r ffi lawn arnoch.
Gallwch, os caiff dosbarth neu gwrs ei ganslo gan y Ganolfan, rhoddir ad-daliad llawn. Cysylltwch â’n Swyddfa Docynnau.
Mae gennym ystafell newid babanod gyferbyn â’r Swyddfa Docynnau, ac mae croeso i fabanod hyd at 18 mis oed mewn digwyddiadau sydd â phris consesiwn plentyn wedi’i hysbysebu. Bydd rhai sioeau teulu yn cynnig gostyngiadau ar docyn teulu, ond nid bob amser.
Byddwch yn gallu gweld yr holl brisiau consesiwn sydd ar gael wrth archebu tocyn. Mae consesiynau ar gael i:
- pobl anabl
- pobl 60+ oed sydd wedi ymddeol yn amser llawn
- dan 16 oed
- myfyrwyr amser llawn
- pobl sy’n ddi-waith ac yn derbyn credydau treth gwaith.
Mae croeso i fabanod ddod i ddigwyddiadau sy’n hysbysebu pris consesiwn plentyn. Cofiwch ddod â rhyw fath o ddilysiad hy cerdyn myfyriwr os ydych wedi archebu eich tocynnau ar-lein.
Na, ein polisi yw, oni bai ein bod yn cyhoeddi fel arall, ni chaniateir ffotograffiaeth na ffilmio unwaith y bydd perfformiad wedi dechrau allan o barch i’r perfformwyr.
Gellir gweld y cynlluniau seddi ar gyfer ein Theatr, Sinema a Neuadd Fawr wrth archebu ar-lein. Fel arall, gallwch weld ein cynlluniau seddi drwy’r dolenni isod.
- Theatr y Werin (LINC)
- Neuadd Fawr (LINC)
- Stiwdio (LINC)
- Sinema (LINC)