Ewch at gynnwys
Event Image
Gwe 27 Meh
·
Festival

Event Info

Gŵyl Serameg Ryngwladol -27 - 29 Mehefin 2025

Ers 1987 mae’r Ŵyl Serameg Ryngwladol, a gynhelir bob dwy flynedd, wedi datblygu i fod yn un o ddigwyddiadau serameg mwyaf blaenllaw’r DU.

Wedi’i threfnu gan Grochenwyr Gogledd Cymru a Chrochenwyr De Cymru ynghyd â Phrifysgol Aberystwyth a Chanolfan y Celfyddydau, mae’r ŵyl yn denu dros 1000 o ymwelwyr ar gyfer penwythnos hir o ddathlu serameg. Dewch i weld a mwynhau gwaith crochenwyr ac artistiaid serameg adnabyddus rhyngwladol o Gymru, y DU a ledled y byd gan gynnwys Gwlad Belg, Ffrainc, Iwerddon, Twrci, Siapan ac India.

Yn 2025 bydd cynaliadwyedd yn thema sy’n rhedeg trwy lawer o’r arddangosiadau, darlithoedd, taniadau odynau, a thrafodaethau, gyda gweithdai a gweithgareddau ymarferol ar gyfer ymwelwyr o bob oed. Mae’r arddangosfeydd yn cynnwys Serameg a Sain yn y brif oriel, a chyfleoedd gwych i brynu gwaith o’r sawl sy’n ymddangos, sioe Crochenwyr Gogledd a De Cymru, yr arwerthiant cwpan hynod boblogaidd ac hyd yn oed yn uniongyrchol o’r odynau.

Bydd Tocynnau Cynnar ar gael o fis Rhagfyr tan Chwefror 28ain2025.

Cynnig arbennig i grŵp o 10+: Prynwch 10 tocyn a cewch tocyn ychwanegol am ddim

Am y wybodaeth ddiweddaraf gan gynnwys manylion o Raglen yr Ŵyl a’r Arddangoswyr ymwelwch â:

www.internationalceramicsfestival.org

Prisiau’r Tocynnau: 

Pris llawn y penwythnos £210

Tocyn penwythnos i NWP/SWP £185

Tocyn penwythnos i fyfyrwyr £130

Tocyn Dydd Gwener Pris Llawn £100

Tocyn Dydd Gwener NWP/SWP £80

Tocyn Dydd Sadwrn Pris Llawn £140

Tocyn Dydd Sadwrn NWP/SWP £120

Tocyn Dydd Sul Pris Llawn £130

Tocyn Dydd Sul NWP/SWP £110

Anghenion Mynediad:Cysylltwch â ni i archebu lle os oes gennych unrhyw anghenion mynediad neu os oes gennych gerdyn Hynt. Mae tocynnau gofalwyr ar gael drwy'r Swyddfa Docynnau.

Ble i aros:  Os ydych am archebu llety ym Mhrifysgol Aberystwyth, ewch i https://bookaccommodation.aber.ac.uk/ a defnyddiwch y Cod Hyrwyddo ICF2025.   Mae lleiafswm o dair noson ar y llety yn y lle cyntaf.  Byddwn yn agor am o leiaf dwy noson ar unrhyw lety sy'n weddill ddydd Llun 16 Rhagfyr.  

Gellir gwneud ymholiadau am lety gyda Swyddfa Gynadledda'r Brifysgol ar 01970 621960 neu constaff@aber.ac.uk

Event Image

Dates & Tickets

Dydd Gwener 27 Mehefin, 2025
09:00