Ewch at gynnwys

Ein gofodau

Theatr y Werin yw ein prif ofod theatr gydag awditoriwm 312 sedd. Yn 2018, cafodd ei adnewyddu’n sylweddol a’i uwchraddio’n dechnegol. Mae ein llwyfan yn cynnal amrywiaeth eang o berfformiadau theatr a dawns, yn amrywio o gwmnïau sy’n ymweld a grwpiau cymunedol i’n cynyrchiadau ein hunain.

Mae ein Neuadd Fawr ag uchafswm capasiti o 1250, gyda seddi i dros 900. Fe’i defnyddir ar gyfer digwyddiadau mawr o gerddoriaeth fyw, comedi stand-yp i arholiadau’r Brifysgol a Seremonïau Graddio. Mae’n ofod hyblyg, sy’n golygu y gellir ei ddefnyddio hefyd ar gyfer sioeau masnach, cynadleddau, priodasau a digwyddiadau arbennig eraill.

Mae ein stiwdio â seddi i hyd at 80, ac mae’n cynnig gofod llai, mwy agos atoch ar gyfer gwaith newydd.

Mae gan ein sinema uchafswm capasiti o 110 ac mae’n cynnwys technoleg o’r radd flaenaf. Mae ein rhaglen sinema yn cynnwys y ffilmiau mawr diweddaraf, ffilmiau tŷ celf a digwyddiadau darlledu lloeren byw. Mae hefyd yn gartref i Sgriniadau Arian, dangosiadau Rhieni a Babanod, dangosiadau hygyrch a sawl gŵyl ffilm drwy gydol y flwyddyn, gan gynnwys Gŵyl Ffilm Cymru a’r Byd yn Un ac Abertoir, Gŵyl Arswyd Ryngwladol Cymru.

Mae gennym nifer o orielau ar gyfer arddangosfeydd dros dro gan gynnwys:

 

Mae Oriel 1 yn brif oriel arddangos gain, bwrpasol sy’n arddangos celf gyfoes gan gynnwys paentiadau, cerfluniau, gosodweithiau a chyfryngau newydd. Mae’n ofod wedi’i oruchwylio’n llawn, tua 250 metr sgwâr.

 

Mae Oriel 2 yn darparu ffocws ar gyfer gwaith print a ffotograffiaeth ac mae tua 125 metr sgwâr. Nid yw’n cael ei oruchwylio drwy’r amser ond mae’n cael ei wirio gan staff trwy gydol y dydd.

Mae’r Oriel Serameg yn arddangos y gorau mewn serameg gyfoes ac mae hefyd yn gartref i Gasgliad Serameg rhagorol y Brifysgol.

Man gwylio digidol ar gyfer celf fideo a ffilm yw The Eye. Mae ganddo sgrin maint 52″, ac mae i’w weld ym mhrif gyntedd y Ganolfan.

 

Mae ein Horiel y Caffi yn darparu lleoliad mwy anffurfiol ar gyfer gwaith ar raddfa lai.

Mae gofodau ar gyfer ein rhaglen Celfyddydau Cymunedol yn cynnwys pedair stiwdio ddawns bwrpasol, stiwdio serameg, stiwdios 3D a 2D, dau ofod ymarfer, ystafell gerddoriaeth, ystafell ffotograffiaeth a Labordy Digidol.

  • Pedair stiwdio ddawns bwrpasol
  • Stiwdio seramig
  • Stiwdios 3D a 2D
  • Ystafell ffotograffiaeth ac ystafell dywyll
  • Ystafelloedd ymarfer
  • Ystafell gerddoriaeth
  • Labordy digidol
  • Stiwdios Creadigol ar gyfer artistiaid a busnesau creadigol

Cynlluniau lloriau a manylebau technoleg

Gallwch lawrlwytho ein cynlluniau lloriau a manelebau technoleg isod