Ewch at gynnwys

Beth Sydd Ymlaen

Arddangosfeydd Cyfredol

Yn dod yn fuan

Ynglŷn â'n gofodau

Mae Oriel 1 wedi’i hadeiladu’n bwrpasol ar gyfer arddangosfeydd proffil uchel, ar raddfa fawr.

Mae Oriel 2 yn benodol ar gyfer artistiaid newydd.

Yn ein Horiel y Caffi a Piazza byddwch yn dod o hyd i waith gan ein cymunedau lleol

Mae ein Stiwdios Creadigol yn rhoi cyfle i artistiaid ddatblygu eu hymarfer eu hunain mewn amgylchedd diogel a chefnogol.

Mae’r Oriel Cerameg ar lawr isaf y Canolfan Gelfyddydau. Caiff arddangosfeydd yr oriel flaen eu newid bedair gwaith y flwyddyn fel arfer.

Maent yn cynnwys arddangosfeydd o gasgliadau ar themâu penodol yn ogystal ag arddangosfeydd ar fenthyg wedi eu curadu, arddangosfeydd gan artistiaid unigol, grwpiau a sefydliadau cerameg.

Darganfod mwy yma.

Oriel Celf Gyfoes Genedlaethol Cymru

Rydym wedi cael ein dewis i fod yn rhan o’r rhwydwaith o orielau a fydd yn ffurfio Oriel Celf Gyfoes Genedlaethol Cymru. Bydd buddsoddiad cyfalaf mawr yn ein galluogi i rannu casgliad cenedlaethol Cymru o gelf gyfoes â’n cynulleidfaoedd a phobl y Canolbarth, i ddatblygu partneriaethau newydd, a chomisiynu gwaith newydd gan artistiaid sy’n dod i’r amlwg.

 

Ymweliadau ac adnoddau i ysgolion

Mae gennym ystod o weithgareddau i ysgolion gan gynnwys sesiynau addysg oriel ar gyfer pob cyfnod allweddol, yn ogystal â Diwrnodau Celf ar gyfer disgyblion Cyfnodau Allweddol 1 a 2.

Rydym am wneud eich ymweliad dosbarth mor bleserus â phosibl, felly rydym yn darparu pecynnau athrawon gyda chanllawiau ar sut i gael y gorau o’ch ymweliad. Mae gennym hefyd leoedd gweithdy y gallwch eu defnyddio (cofiwch ddod â’ch deunyddiau eich hun).

I siarad â ni am ymweld gyda’ch ysgol, cysylltwch â Laura Oliver ar 01970 62 28 88 / lao8@aber.ac.uk.

 

Rhannwch eich gwaith gyda ni

Ydych chi’n artist o ganolbarth Cymru neu ymhellach i ffwrdd sy’n awyddus i rannu eich gwaith? Os hoffech chi ddweud mwy wrthym am eich gwaith, rhannu manylion sioeau neu brosiectau cyfredol, neu gael eich ystyried ar gyfer arddangosfa, cysylltwch â ni.

Anfonwch atom ni:

  • Unrhyw enghreifftiau o’ch gwaith (CDs, DVDs, ffotograffau), gyda gwybodaeth yn cynnwys deunyddiau, dimensiynau ac ati fel y bo’n briodol.
  • Eich CV
  • Datganiad ac unrhyw wybodaeth ategol arall am eich gwaith neu brosiect yn dweud wrthym pam y credwch ei fod yn berthnasol ac y bydd yn apelio at ein cynulleidfaoedd. Dywedwch wrthym hefyd pa ofod oriel sydd gennych mewn golwg – mae manylion llawn ein gofodau ar gael yma.

Preswyliadau artistiaid

Mae ein Preswyliadau Artistiaid yn rhoi cyfle i artistiaid gweledol o Gymru, y DU a thu hwnt i ddatblygu eu gwaith, ennill sgiliau newydd, a rhwydweithio gyda phobl greadigol eraill.

Os ydych chi’n artist yn chwilio am amser, gofod a chyfleoedd i gydweithio mewn amgylchedd newydd, yn ein Stiwdios Creadigol arobryn a ddyluniwyd gan Stiwdio Heatherwick, cadwch olwg am alwadau agored ar ein tudalen Cyfleoedd neu cysylltwch â’n Curadur Arddangosfeydd Ffion.

Rhagor o wybodaeth am ein Stiwdios Creadigol.

 

Perchen eich celf eich hun gyda’n Cynllun Casglu

Mae Cynllun Casglu Cyngor Celfyddydau Cymru yn rhoi’r cyfle i chi gael benthyciad di-log i brynu darn o gelf wreiddiol eich hun o’n Horiel. Gallwch fenthyg hyd at £2,000, neu cyn lleied â £50. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â ni.