Cefnogwch ni trwy ddod yn wirfoddolwr
Mwynhewch sioeau a dangosiadau, a dewch yn rhan o dîm cyfeillgar o’r un anian sy’n caru diwylliant.
Rydym yn lleoliad prysur sy’n cynnal cannoedd o ddigwyddiadau a dangosiadau sinema bob blwyddyn.
Ar gyfer pob digwyddiad, mae tîm o wirfoddolwyr blaen tŷ ymroddedig yn croesawu cwsmeriaid, gwirio eu tocynnau a’u dangos i’w sedd, yn ogystal ag ychydig o gyfrifoldebau eraill.
I ddiolch iddynt, mae gwirfoddolwyr yn cael gweld y sioe am ddim. Mae hyn yn cynnwys theatr, comedi, cerddoriaeth fyw a’r ffilmiau diweddaraf i’r sinema.
Os ydych yn ystyried ymuno â’n tîm o wirfoddolwyr, cysylltwch â ni heddiw.
Mae bod yn wirfoddolwr wedi ehangu fy marn o’r hyn sydd ar gael ac wedi fy ngwneud yn fwy arbrofol drwy allu gweld perfformiadau na fyddwn wedi’u gweld pe bawn wedi gorfod talu i fynd i weld y perfformiad.
Mae hefyd yn rhoi’r teimlad o berthyn