Ewch at gynnwys

Cyhoeddwyd enillydd Gwobr Ian McKellen Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth 2024 yn dilyn cyfweliadau a gynhaliwyd yn ddiweddar. Enillydd 2024 yw Rhys Nutting. Rhys yw un o’r ymgeiswyr llwyddiannus a fydd yn astudio BA (Anrhydedd) mewn Technoleg Sain yn Institiwt Lerpwl ar gyfer y Celfyddydau Perfformio (LIPA) o fis Medi 2024. Bydd yn derbyn £500 tuag at gostau ei astudiaethau fel rhan o’r wobr arbennig hon a sefydlwyd gydag arian a gyfrannwyd yn ystod ymweliad Syr Ian McKellen â Chanolfan y Celfyddydau yn 2019.

Dywedodd Rhys: ‘Mae’n anrhydedd i mi dderbyn Gwobr Syr Ian McKellen 2024. ‘Rwy’n hynod ddiolchgar i Ganolfan y Celfyddydau Aberystwyth ac i Syr Ian McKellen am y cyfle hwn. Mae cydnabyddiaeth y wobr o ochr dechnegol y diwydiant yn wirioneddol ysbrydoledig a bydd yn fy ysgogi i ffynnu yn y diwydiant tra byddaf yn astudio fy BA (Anrh.) mewn Technoleg Sain yn LIPA. Taniodd Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth fy angerdd am y celfyddydau creadigol, gan ei gwneud yn fraint i gael fy newis ar gyfer y wobr hon.’

 

Mynychodd Rhys Ysgol Bro Caereinion yn y Trallwng lle bu’n astudio Cymraeg (Iaith Gyntaf), Cerddoriaeth a Bagloriaeth Cymru ar gyfer Lefel A. Cafodd hefyd brofiad gwaith yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth, gyda mentoriaeth gan y diweddar Nick Bache.

Rhys oedd dewis unfrydol panel cyfweld y Wobr ac unwaith eto ‘roedd safon yr ymgeiswyr o safon uchel iawn. Dywedodd y Cydlynydd Dysgu Creadigol Laura Oliver: ‘’Roedd safon y ceisiadau ar gyfer Gwobr 2024 unwaith eto yn arbennig o uchel, ac ‘roedd aelodau’r panel wrth eu bodd efo sgiliau ac angerdd pob un o’r ymgeiswyr. Safodd Rhys allan fel rhywun oedd â ffocws arbennig ac angerddol ar yr yrfa o’i ddewis, gan ei fod wedi cyflawni gymaint eisoes. Mae ganddo ddyfodol disglair o’i flaen ac ‘rydym yn dymuno pob llwyddiant iddo.

Dywedodd y Fonesig Elan Closs Stephens DBE, aelod o’r panel cyfweld a bwrdd ymgymghorol Canolfan y Celfyddydau:
“Daeth y wobr hon i fodolaeth trwy haelioni Syr Ian McKellen a ymwelod â Chanolfan y Celfyddydau Aberystwyth fel rhan o’i daith i ddathlu ei benblwydd yn 80 oed. Unwaith eto, ‘rydym wedi dod o hyd i berson ifanc sy’n ymroddedig, yn frwdfrydig ac yn fwy na theilwng i dderbyn y wobr bwysig hon. Gwnaeth Rhys argraff fawr ar y Panel a dymunwn yn dda iddo wrth iddo gymryd y cam nesaf yn ei yrfa.’

Mae Rhys yn dilyn yn olion troed enillwyr blaenorol: Gruffydd Rhys Evans (2023) sydd ar hyn o bryd yn astudio BA Anrh. mewn Actio yn Academi Frenhinol y Celfyddydau Dramatig (RADA); Tom Mathias (2022), prif feiolinydd Pedwarawd preswyl  Kuttner yn Ysgol Gerdd  Jacobs, Prifysgol Indiana ar gyfer y tymor 2022-2023, sy’n astudio ar gyfer Diploma Perfformiwr Feiolin Solo ym Mhrifysgol Indiana; Osian Pearson (2021) a astudiodd MA mewn Golygu yn yr Ysgol Ffilm a Theledu (NFTS) glodwiw; Cerys Havana Hickman (2020) a astudiodd am radd mewn Cerddoriaeth (BMus) yn Goldsmiths, Prifysgol Llundain, a’r cyd enillwyr (2019) Owain Gruffydd, a astudiodd ym Mhrifysgol Northampton am radd BA gydag anrhydedd mewn Actio, a Laura Baker a enillodd radd BA gydag anrhydedd mewn Addysg Bale yn yr Academi Ddawns Frenhinol.

Pan ddaeth Syr Ian McKellen i berfformio yng Nghanolfan y Celfyddydau ym mis Chwefror 2019, rhoddwyd yr holl arian a godwyd trwy werthu tocynnau a chyfraniadau yn ystod ei ymweliad i un ochr, i’w ddefnyddio ar gyfer cefnogi gwaith pwysig y Ganolfan gyda phobl ifanc. Sefydlwyd gwobr arbennig, Gwobr Ian McKellen Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, oedd yn agored i bobl ifanc rhwng 16 – 25 oed sy’n bwriadu parhau eu hyfforddiant galwedigaethol yn y celfyddydau creadigol – yn cynnwys, ond nid yn gyfyngedig i, theatr, dawns a’r celfyddydau gweledol. Mae’r swm o £500 ar gael yn flynyddol i ymgeisydd sy’n medru dangos addewid artistig ac angerdd tuag at ei ffurf gelf ddewisiedig, ac sydd wedi ennill lle i astudio yn ystod y flwyddyn academaidd ganlynol.

Mae Gwobr Ian McKellen yn gyfle gwych i bobl ifanc sy’n frwd dros y celfyddydau creadigol. Mae’n darparu cefnogaeth ariannol a chydnabyddiaeth i’w dawn, ac yn eu helpu i wireddu eu breuddwydion

 

Ynglŷn â’r wobr

Pan ddaeth Syr Ian McKellen i berfformio yng Nghanolfan y Celfyddydau ym mis Chwefror 2019 ar gyfer ei daith pen-blwydd yn 80 oed, cafodd yr holl arian a godwyd o werthu tocynnau a rhoddion yn ystod ei ymweliad ei gadw’n ddiogel i’w ddefnyddio i gefnogi ein gwaith gyda phobl ifanc.

Er anrhydedd i ddyn mor ysbrydoledig, ac i wneud defnydd da o’r arian hwn, fe wnaethom sefydlu Gwobr Ian McKellen ar gyfer pobl ifanc.

Bob blwyddyn, byddwn yn dyfarnu £500 i unigolyn sy’n dangos potensial artistig ac angerdd dwfn am yr hyn y mae’n ei wneud. Bydd yr arian yn helpu gyda’u hastudiaethau felly mae’n rhaid i’r derbynnydd hefyd fod wedi sicrhau lle ar gwrs astudio ar gyfer y flwyddyn academaidd sydd i ddod.

 

Pwy all gymryd rhan?

Mae’r wobr hon yn agored i unrhyw un rhwng 16 a 25 oed sy’n frwd dros y celfyddydau creadigol ac sydd am barhau â’u hyfforddiant galwedigaethol. P’un a oes gennych ddiddordeb mewn theatr, dawns, celfyddydau gweledol, neu unrhyw beth arall, rydym am eich helpu i gyrraedd eich llawn botensial.

 

Mae ceisiadau bellach ar gau ar gyfer 2024, cadwch lygad yma am y rownd nesaf o geisiadau

Enillwyr y gorffennol

2023

Gruffydd Rhys Evans. Astudio BA Hons mewn Actio yn Academi Frenhinol y Celfyddydau Dramatig (RADA).

2022

Tom Mathias, Diploma Perfformiwr Unawdydd Feiolin ym Mhrifysgol Indiana, Ysgol Cerddoriaeth Jacobs.

2021

Osian Pearson, MA mewn Golygu yn yr Ysgol Ffilm a Theledu Genedlaethol

2020

Cerys Havana Hickman, aml-offerynnwr yn arbenigo yn y delyn deires a phiano, Cerddoriaeth (BMus) yn Goldsmiths, Prifysgol Llundain