Ewch at gynnwys

Archwiliwch ein lleoliad

Cyn i chi ddod i ddigwyddiad, dewch i adnabod ein hadeilad gyda’n map 3d rhyngweithiol.

Rydym hefyd wedi creu canllaw i bobl sy’n mynychu digwyddiadau a gweithgareddau, gan gynnwys nodiadau i helpu gofalwyr neu gynorthwywyr sy’n dod gyda nhw.

Gwybodaeth ddefnyddiol

  • Mae lle parcio wrth ymyl y brif fynedfa i yrwyr â symudedd cyfyngedig.
  • Mae dau le ar gael hefyd yng nghefn y theatr, gyda mynediad gwastad i’r prif gyntedd.
  • Mae 4 lle i gadeiriau olwyn ym mlaen y Neuadd Fawr gyda mynediad gwastad i’r stryd a phrif lawr Canolfan y Celfyddydau, gan gynnwys y Swyddfa Docynnau a Chyntedd y Neuadd Fawr.

  • Mae mynediad i gadeiriau olwyn yn bosibl i bob man perfformio a gweithdy yn y lleoliad.
  • Mae mynediad i’r prif gyntedd a’r swyddfa docynnau ar lefel y llawr gwaelod, mae lifft i fyny i gyntedd y theatr a lifft grisiau i lawr i’r cyntedd isaf.
  • Mae rhes gefn ein sinema wedi’i chadw ymlaen llaw ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn, gofalwyr ac unrhyw un ag anghenion mynediad corfforol.

  • Mae toiledau ar gael ar bob lefel ac eithrio’r cyntedd isaf.

  • Rydym yn croesawu cŵn tywys a chŵn cymorth hyfforddedig. Os hoffech ddod â’ch ci cymorth i’r awditoriwm, rhowch wybod i ni pan fyddwch yn archebu’ch tocyn.

  • Mae dolenni clyw wedi’u gosod yn y Neuadd Fawr, theatr a sinema.

Sioeau a dangosiadau hygyrch

Sain ddisgrifiad a chapsiynau

Ni yw’r unig sinema sy’n darparu cynnwys ffilm hygyrch o fewn taith awr i Aberystwyth. Mae ehangu mynediad hefyd yn rhan bwysig o’n rhaglen, felly rydym yn rhaglennu ffilmiau â Sain Ddisgrifiadau ac Isdeitlau yn rheolaidd.

Hamddenol

Mae ein dangosiadau hamddenol yn newid yr amgylchedd arferol yn y theatr neu’r sinema felly mae’n fwy cyfforddus ar gyfer ystod o anghenion. Mae’r newidiadau hyn yn cynnwys:

  • Dim hysbysebion na threlars
  • Isdeitlau
  • Goleuadau lefel isel
  • Sain fwy tawel
  • Rhyddid i wneud sŵn a symud o gwmpas