Ewch at gynnwys

Dewch i ddawnsio gyda ni. Dosbarthiadau dawns hwyliog, o ansawdd uchel a chynhwysol i bob oed.

Bydd ein hathrawon yn dysgu bale, modern, tap, a dawnsio stryd i chi, fel y gallwch chi ddatblygu cariad at ddawns.

Rydym yn falch o’n henw da am addysgu gwych.

Image
Image
Image
Image
Image Image
Image Image

Graddau ac Arholiadau

Mae’r Ysgol Ddawns yn dilyn system raddedig yr Academi Ddawns Frenhinol (RAD) ar gyfer Bale a Chymdeithas Imperialaidd Athrawon Dawns (ISTD) ar gyfer Modern & Tap. Mae ‘Graddau’ y ddau sefydliad wedi’u cynllunio ar gyfer plant sy’n mynychu un, dwy neu fwy o wersi’r wythnos ac sy’n mwynhau dawns fel hobi, gan weithio hyd eithaf eu gallu. Rhoddir pwyslais cryf ar ddatblygu rhinweddau dawns cerddorol a mynegiannol.

Rhennir pob dosbarth yn ôl oedran a/neu allu. Mae dosbarthiadau ar gyfer Bale a Symudwyr Bach yn cychwyn o 3 oed, Dawnsio Stryd o 4 oed a Modern a Thap o 5 oed. Maent ar ffurf dosbarthiadau wythnosol o 30 munud, 45 munud, neu 1 awr. Ar gyfer disgyblion iau mae’r pwyslais ar fwynhad wrth i dechnegau gael eu cyflwyno’n raddol, gydag ysgol o gynnydd yn cael ei dilyn trwy’r system Raddau. Mae hyn yn sicrhau nad yw disgyblion yn cael eu gorestyn a bod technegau a geirfa yn cael eu cyflwyno mewn modd pwyllog.

Mae arholiadau’n ffon fesur ddefnyddiol o gyflawniad ac wedi’u cynllunio i fod o fewn cwmpas bron pob disgybl ond nid ydynt yn orfodol. I’r rhai sy’n barod i sefyll arholiadau ac sydd â hanes presenoldeb da, mae angen gwersi ychwanegol fel arfer yn ystod tymor yr arholiadau, er mwyn rhoi mwy o sylw unigol ac i alluogi disgyblion i berfformio’n hyderus a chyfarfod â’r safonau uchel gofynnol. Mae gwersi ychwanegol yn orfodol a chodir tâl ychwanegol am y gwersi hyn, yn ôl disgresiwn yr athrawes ddawns.

Mae cyn ddisgyblion wedi ennill llefydd mewn ysgolion a cholegau dawns proffesiynol megis:

  • Ysgol Bale Ganolog
  • Coleg yr Academi Ddawns Frenhinol
  • Italia Conti
  • Academi Celfyddydau Theatr Mountview
  • Trinity Laban Conservatoire ar gyfer Cerdd a Dawns
  • Dawns Rubicon Caerdydd
  • Ysgolion Addysgiadol y Celfyddydau Llundain
  • Canolfan Ddawns a Drama Glannau Merswy
  • Academi Urdang
  • Ysgol Tring Park ar gyfer y Celfyddydau Perfformio

Ymunwch Heddiw

I ddysgu mwy am ein dosbarthiadau dawns neu i gofrestru eich plentyn mewn dosbarth, e-bostiwch ni ar cymrydrhan@aber.ac.uk, ffoniwch 01970 622888 neu ymunwch â’n rhestr aros a byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted â phosibl pan mae rhagor o wybodaeth ar gael.

Ymunwch â’r rhestr aros