Ewch at gynnwys

Caffi

Mae gan ein bwydlen rywbeth i bawb, gyda bwyd poeth, saladau, byrbrydau a chacennau. Mae ein tîm cegin wedi ymrwymo i ddefnyddio arferion cynaliadwy i sicrhau bod popeth yn blasu’n wych. Rydym hefyd yn cynnig opsiynau llysieuol, fegan, a heb glwten i ddarparu ar gyfer gwahanol anghenion dietegol.

1

Oriau agor y caffi

Dydd Llun - Dydd Gwener 9yb - 8yh

Dydd Sadwrn 9yb - 8yh

Dydd Sul 12 – 5yh

Cynaliadwy, moesegol ac yn falch o fod yn Gymreig

Mae gennym ni dair prif egwyddor ar gyfer ein caffis a’n bariau: o ble mae’r bwyd yn dod, bod yn ecogyfeillgar, a rhoi pobl yn gyntaf. Rydym yn gyfrifol ac eisiau helpu ein cymuned leol drwy weithio gyda phartneriaid yng nghyffiniau Canolfan y Celfyddydau. Rydyn ni’n rhoi ein brechdanau dros ben i loches y Wallich i’r digartref ac yn cymryd rhan yn y cynllun ‘Too Good To Go’, sef ap sy’n gwerthu bwyd heb ei werthu am bris gostyngol i osgoi gwastraff.

 

Bar y Theatr

Fe ddewch o hyd i’n Bar y Theatr ar lefel uchaf Canolfan y Celfyddydau. Mae gan ein hawyrgylch braf ac eang ddigon o seddi ac mae’n lle perffaith i ymlacio, neu gwrdd â ffrindiau cyn sioe.

Oriau agor y bar

Awr cyn sioeau a digwyddiadau

Curwch y rhes wrth y bar trwy archebu eich diodydd ar gyfer yr egwyl ymlaen llaw

Archebwch ddiodydd cyn i’ch sioe ddechrau a byddant yn barod i chi yn ystod yr egwyl.

Rydym hefyd eisiau rhoi gwybod i chi am wasanaeth newydd rydym wedi’i gyflwyno i helpu i wella’ch profiad wrth archebu’ch hoff luniaeth ar gyfer yr egwyl. Yr enw arno yw The Vine, ac mae’n blatfform archebu ar-lein hawdd ei ddefnyddio ar gyfer eich holl hoff ddiodydd a byrbrydau.

 

Pan nad yw’r bar ar agor, gallwch chi fwynhau’r gofod o hyd – mae’n wych ar gyfer cymryd amser i ymlacio. Gellir cyflwyno archebion bwyd a diod gan ddefnyddio The Vine (Llun – Sadwrn, 9:30yb – 9:30yh) a byddant yn cael eu dosbarthu i’ch bwrdd.

 

Gallwch logi ein Bar y Theatr ar gyfer digwyddiadau preifat

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Sarah Hughes [sbh@aber.ac.uk]

Siop

Darganfyddwch yr hwyliog, yr hynod a’r arloesol

Os ydych chi am ddod o hyd i eitemau unigryw, hardd ar gyfer eich cartref neu fel anrheg i rywun arbennig, sicrhewch amser i ymweld â’n siop Crefft a Dylunio. Mae gennym ddewis gwych o serameg, printiau gan artistiaid lleol dawnus, llyfrau, cofroddion o Aberystwyth, yn ogystal â nwyddau cartref, deunydd ysgrifennu, cardiau, a gemwaith cyfoes. Tretiwch eich hun!

 

Oriau agor y siop

Dydd Llun – Dydd Sadwrn: 10yb – 8yh
Dydd Sul: 12yb – 5yh


Gallwch gysylltu â’n Siop drwy e-bostio aberartshop@aber.ac.uk