Ewch at gynnwys

Mae Aberystwyth a Chanolbarth Cymru yn rhannau prydferth o’r wlad ac mae digon i’w fwynhau – felly gwnewch y mwyaf o’ch ymweliad ac ewch i grwydro.

Mae Aberystwyth, neu Aber i’w ffrindiau, yn golygu ‘aber yr afon Ystwyth’. Mae’n un o drefi mwyaf Canolbarth Cymru ac yn gyrchfan boblogaidd, diolch i olygfeydd hardd a llawer o siopau a bwytai annibynnol.

Image
Image
Image
Image
Image Image
Image Image

10 peth i wneud yn Aberystwyth a’r cyffiniau

Archwilio’r Promenâd a’r Pier Fictoraidd

Mae hyn yn rhywbeth mae’n rhaid i unrhyw ymwelydd ag Aberystwyth ei wneud. Mae’r promenâd yn llwybr cerdded milltir o hyd sy’n ymestyn ar hyd glan y môr, gan gynnig golygfeydd o’r dref a’r mynyddoedd cyfagos.

Darganfod mwy

Ymweld â Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Llyfrgell fwyaf Cymru ac un o’r mwyaf yn y DU. Mae’n gartref i dros 7 miliwn o lyfrau, llawysgrifau, a hyd yn oed y llyfr lleiaf yn y byd. Mae yna hefyd arddangosfeydd ar hanes a diwylliant Cymru.

Darganfod Mwy

Mynd i gerdded ym Mynyddoedd Cambria

Mae Mynyddoedd Cambria yn gadwyn o fynyddoedd godidog o amgylch Aberystwyth. Mae yna lawer o lwybrau cerdded i ddewis o’u plith, yn dibynnu ar ba mor ffit rydych chi’n teimlo.

Darganfod Mwy

Ymweld ag Ystad Llanerchaeron

Cynlluniwyd y plasty Sioraidd hwn yng Ngheredigion gan y pensaer John Nash ym 1790, ac nid yw wedi newid llawer dros y 200 mlynedd diwethaf. Mae ganddo ardd furiog, llyn buarth a pharcdir gwyllt i’w mwynhau.

Darganfod Mwy

Dathlwch grefft a sgil gwneud cwiltiau Cymreig yn y Ganolfan Cwiltiau Cymreig.

Mae’r amgueddfa fechan hon yn Llanbedr Pont Steffan yn gartref i gasgliad o gwiltiau Cymreig, yn dyddio’n ôl i’r 17eg ganrif. Mae ganddo gaffi hefyd os ydych chi’n chwilio am rywle i gael hoe.

Darganfod Mwy

Mynnu tamaid i fwyta yn Ultracomida.

Mae Aberystwyth yn lle gwych i bobl sy’n hoff o fwyd ac mae’r deli Sbaenaidd/Cymreig a’r bar tapas hwn yn un o’n ffefrynnau yn y dref.

Darganfod Mwy

Ymchwilio i’r gorffennol yn Amgueddfa Ceredigion.

I rai sy’n hoff o hanes, mae’r amgueddfa hon yn adrodd hanes Ceredigion, o’i gorffennol cyn-hanesyddol hyd heddiw.

Darganfod Mwy

Sylwi ar adar ysglyfaethus ym Mwlch Nant yr Arian

Mae’r goedwig a’r ganolfan ymwelwyr hon yn adnabyddus am ei thraddodiad o fwydo barcutiaid coch. Mae hefyd yn cynnig amrywiaeth o lwybrau cerdded a beicio mynydd.

Darganfod Mwy

Gweld lle mae cenedlaethau o dywysogion Cymreig wedi’u claddu yn Abaty Ystrad Fflur.

Un o safleoedd hanesyddol pwysicaf Cymru, yr abaty canoloesol mawreddog hwn ym Mhontrhydfendigaid yw man gorffwys olaf cenedlaethau o uchelwyr Cymreig canoloesol.

Darganfod Mwy

Mynychu gŵyl

Mae Aberystwyth yn cynnal amrywiaeth o wyliau trwy gydol y flwyddyn, gan gynnwys MusicFest a Gŵyl Gomedi Aberystwyth. Dylai dilynwyr ffilmiau arswyd hefyd gadw llygad am Ŵyl Arswyd Ryngwladol Abertoir Cymru.

 

Am ragor o wybodaeth am yr ardal, ewch i

Croeso Cymru

Darganfod Ceredigion