Ewch at gynnwys

Os ydych chi am gynnal digwyddiad neu gynhadledd, neu rentu lle ar gyfer gweithdy neu gyfarfod, efallai y bydd ein lleoliad yn gweddu'n berffaith.

P’un a ydych yn cynnal cynhadledd fawr (gallwn ddarparu ar gyfer dros 900 o bobl) neu gyfarfod preifat bach, mae gennym le i ddarparu ar gyfer eich anghenion. Mae ein caffi hefyd ar gael i ddarparu ar gyfer priodasau, dathliadau, a chynulliadau o bob maint, felly gallwch chi fwynhau bwyd blasus wrth fwynhau ein golygfeydd godidog ar draws Bae Ceredigion.

 

Image
Image
Image
Image
Image Image
Image Image

 

Rhowch wybod i ni sut y gallwn helpu i sicrhau bod eich digwyddiad yn llwyddiant.

Rydym yn deall y dylai cyrraedd eich digwyddiad fod yn ddi-straen felly rydym yn cynnig digon o lefydd parcio diogel ar y safle, ac rydym filltir yn unig o orsaf drenau Aberystwyth. Mae hyn yn ei gwneud hi’n hawdd i’ch gwesteion deithio i’r lleoliad ac oddi yno heb unrhyw drafferth.

Bydd ein staff profiadol yn gweithio gyda chi bob cam o’r ffordd i sicrhau bod eich digwyddiad yn llwyddiant. Byddwn yn helpu gyda phopeth sydd ei angen arnoch.

 

Cysylltwch â ni heddiw i ddysgu mwy am yr hyn y gallwn ei gynnig

E-bostiwch ein Rheolwr Gweithrediadau a Chynllunio Auriel Martin    Auriel Martin

Am gwestiynau am arlwyo, e-bostiwch  Sarah Hughes