Ewch at gynnwys

Mae Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth yn rhan o Brifysgol Aberystwyth ac yn ymrwymedig i warchod eich gwybodaeth bersonol a sicrhau ein bod yn eglur ynglyn â pha wybodaeth yr ydym yn cadw amdanoch.
O dan y Rheoliad Gwarchod Data Cyffredinol (GDPR DU) ‘rydym yn gyfrifol am sicrhau:
• Bod eich data personol yn cael ei gadw’n ddiogel ac yn cael ei warchod
• Ein bod yn glir ynglyn ag at ba bwrpasau yr ydym yn defnyddio’ch data
• Bod eich data yn cael ei ddefnyddio mewn ffordd addas
• Ei bod yn hawdd i dynnu’ch caniatâd yn ôl neu ddiweddaru’r ffordd yr ydym yn cyfathrebu â chi unrhyw amser. Hefyd ei bod yn hawdd i chi roi’ch caniatâd unrhyw amser.
Mae defnyddio gwybodaeth bersonol yn ein cynorthwyo i ddeall ein cwsmeriaid yn well ac hefyd i ddarparu ar eu cyfer gwybodaeth berthnasol ac amserol ynglyn â’r gwaith yr ydym yn ei wneud – ar y
llwyfan ac oddi arno. Fel elusen, mae’n ein cynorthwyo hefyd i gysylltu â darpar gyfranwyr a chefnogwyr.
Mae’r datganiad hwn yn egluro sut yr ydym yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol yn unol â’r Rheoliad Gwarchod Data Cyffredinol (GDPR DU) a’r holl ddeddfwriaeth berthnasol arall yn ymwneud â gwarchod gwybodaeth bersonol. Mae’r datganiad
hwn yn egluro:
• Pa wybodaeth y gallwn gasglu amdanoch
• Sut y gallwn ddefnyddio’r wybodaeth honno
• Pryd yr ydym yn defnyddio’ch manylion i gysylltu â chi
• Ym mha sefyllfaoedd y gallwn ddatgelu eich manylion i drydydd partïon
• Sut yr ydym yn cadw eich gwybodaeth bersonol yn ddiogel, sut yr ydym yn
ei chynnal a’ch hawliau i’w gweld
Mae’r wybodaeth bersonol a ddisgrifir yn y datganiad hwn yn cael ei chasglu oddi
wrthych chi drwy’r sianeli canlynol:
• Eich archebion gyda Chanolfan y Celfyddydau Aberystwyth (ar-lein, dros y
ffôn neu mewn rperson)
• Ein gwefan
• E-byst yr ydych yn derbyn oddi wrthym ni
• Eich ymweliad â Chanolfan y Celfyddydau Aberystwyth
• Llythyrau a gohebiaeth ysgrifenedig arall
• Ymadweithiau eraill gyda ni dros y ffôn neu mewn person
Ein gwefan yw un o’r prif lefydd y mae ein cwsmeriaid yn ymadweithio â ni ac yn rhannu eu gwybodaeth bersonol. Os ydych yn bryderus unrhyw amser yr ymyrrwyd â’ch cyfrif ar-lein, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar unwaith ar artstaff@aber.ac.uk neu’r tîm marchnata ar artscentre-marketing@aber.ac.uk. Fe ffeindiwch hefyd fod ‘na ddolenni trwy’r wefan i gyd i wefannau trydydd partïon sy’n meddu ar eu polisïau
preifatrwydd eu hunain ac sydd efallai yn defnyddio cwcis. ‘Rydym yn eich cynghori i adolygu eu polisïau a’u cwcis pan ‘rydych yn ymweld â’u gwefannau ond nid ydym yn cymryd unrhyw gyfrifoldeb am wefannau trydydd partïon.

Mae Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, fel rhan o Brifysgol Aberystwyth sy’n gweithredu fel rheolwr data, yn cydymffurfio â’r Ddeddf Gwarchod Data a’r Rheoliad Gwarchod Data Cyffredinol DU.
• Mae Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, fel rhan o Brifysgol Aberystwyth, yn ymrwymedig i gynnal eich preifatrwydd a chymryd gofal o’r wybodaeth bersonol yr ydych yn rhoi’n wirfoddol fel rhan o’r proses archebu tocynnau, prynu ar-lein, llenwi ffurflenni aelodaeth neu nawdd, tanysgrifio i e

• gylchlythyrau neu weithgareddau ac arolygon ymwelwyr.
Mae’r wybodaeth bersonol yr ydym yn casglu, yn prosesu neu’n defnyddio yn cael ei
thrin yn ddiogel ac yn unol â’n polisi preifatrwydd (a ddisgrifir isod). Pa bryd bynnag yr ydych yn rhoi gwybodaeth bersonol i ni, ‘rydych yn caniatau iddi gael ei chasglu a’i defnyddio yn unol â’r polisi hwn, gan gynnwys ein defnydd o gwcis (fel yr eglurir isod).
Pan ‘rydym yn prosesu’ch archeb / pryniad, gofynnir i chi am eich enw, cyfeiriad, e-bost a rhif ffôn.
Mae hyn yn hanfodol er mwyn prosesu archebion lle na ddefnyddir arian parod.
Efallai y gofynnir i chi hefyd gael eich hysbysu am ddigwyddiadau a gweithgareddau a gynhelir yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth yn y dyfodol. ‘Rydym yn cadw gwybodaeth bersonol at bwrpasau gweinyddu, hysbysebu, marchnata a chodi arian.
Yn dibynnu ar beth yr ydych wedi dweud wrthym, byddwn yn i) prosesu’ch gwybodaeth ar y sail eich bod yn ymgymryd â chytundeb pan ‘rydych yn prynu tocynnau neu gynnyrch o’r Ganolfan neu pan ‘rydych yn cyflwyno rhodd (Erthygl 6(1)(b) y Rheoliad). ii) prosesu’ch gwybodaeth ar y sail eich bod wedi rhoi caniatâd ar gyfer y prosesu hyn ac ar gyfer cyfathrebiadau cysylltiedig (Erthygl 6(1)(a) y Rheoliad) a iii) prosesu’ch gwybodaeth ar y sail ei bod er ‘lles dilys’ y Ganolfan i wneud hynny (Erthygl 6(1)(f) y Rheoliad) sef bod angen y wybodaeth ar y Ganolfan er mwyn prosesu trafodion ariannol ac eraill ac i gadw cofnod o’r rhain.
Defnyddir eich gwybodaeth gan staff y Ganolfan yn unig. Defnyddir trydydd partïon yn achlysurol i ddarparu cyfleusterau neu wasanaethau i helpu prosesu data. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Chanolfan y Celfyddydau Aberystwyth neu Swyddog
Gwarchod Data’r Brifysgol ar llywodraethugwyb@aber.ac.uk

Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, sydd wedi ennill sawl wobr, yw canolfan gelfyddydol fwyaf Cymru ac fe’i hystyrir fel ‘banerlong genedlaethol ar gyfer y celfyddydau’. Mae ganddi raglen artistig eang, yn cynhyrchu ac yn cyflwyno, ar draws yr holl ffurfiau celf yn cynnwys drama, dawns, cerddoriaeth, y celfyddydau gweledol, y celfyddydau cymhwysol, ffilm, y cyfryngau newydd, a chelfyddydau cymunedol ac fe’i cydnabyddir fel canolfan genedlaethol ar gyfer datblygu’r celfyddydau.
Mae Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth yn adran o Brifysgol Aberystwyth ac yn aelod o Cyfadran y Celfyddydau a’r Gwyddorau Cymdeithasol. Mae Prifysgol Aberystwyth yn elusen a’i rhif Elusen Gofrestredig* yw 1145141. ‘Rydym yn gweithio’n agos gydag adrannau eraill yr Athrofa sy’n cynnwys yr Ysgol Gelf, Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu, Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol, Ieithoedd Ewropeaidd, Y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd a’r Ganolfan Gerdd. Am ragor o wybodaeth ynglyn â’r Athrofa, cliciwch yma https://www.aber.ac.uk/en/iah

Gofynnir i chi am wybodaeth bersonol a byddwn yn cadw’ch enw, manylion cyswllt a gwybodaeth ynglyn â sut ydych am i ni gyfathrebu â chi pan ‘rydych yn prynu eitem yn ein swyddfa docynnau neu’n prynu unrhyw gynnyrch gennym, yn gwneud cyfraniad, yn ymuno fel aelod, neu fel arall yn rhoi’ch gwybodaeth i ni. Byddwn yn cadw cofnod o’ch manylion banc neu’r cerdyn credyd a ddefnyddwyd i wneud y pryniant, ond dim ond dros dro a dim ond er mwyn prosesu trafodion.
Byddwn yn cofnodi manylion pan ‘rydych yn tanysgrifio i’n rhestr bost, yn ymuno fel aelod neu’n cyflwyno rhodd. Pan ‘rydych yn cyflwyno rhodd, byddwn yn cofnodi manylion y cyfraniad (swm a dyddiad) a’ch statws Rhodd Gymorth.

4.1 Casglu Gwybodaeth
Byddwn yn storio gwybodaeth bersonol a fydd yn cynnwys rhai o’r canlynol:
• Enwau a theitlau llawn
• Cyfeiriadau post
• Cyfeiriadau e-bost
• Rhifau ffôn (Symudol a Chartref)
• Enw plentyn (ar gyfer yr Ysgol Lwyfan, Theatr Ieuenctid, Ysgol Ddawns, rhaglenni ac unrhyw ddosbarthiadau, gweithdai a phrosiectau eraill yr adran Ddysgu Creadigol sy’n cael eu harchebu gan riant neu warcheidwad)
• Dyddiad geni
• Gofynion mynediad
• Unrhyw ofynion neu ddewisiadau i’w hychwanegu at restrau post penodol
• Manylion cerdyn taliad
• Gwybodaeth a gesglir trwy arolygon ac holiaduron
• Gwybodaeth a gesglir trwy gwcis
Yn dibynnu ar beth yr ydych wedi dweud wrthym ynglyn â beth sy’n well gennych, gallwn gysylltu â chi drwy’r:
• Post
• E-bost
• Ffôn

4.2 Gwybodath ynglyn â’ch ymadwaith â ni
Pan ‘rydych yn ymweld â’n gwefan, yn archebu i weld sioe, yn prynu eitem, yn cyflwyno rhodd neu’n derbyn hysbysrwydd oddi wrthym, byddwn yn gwneud cofnod.
Bydd hwn yn cynnwys y cyfan neu rai o’r canlynol:
• Hanes y Pryniant
• Hanes y Rhodd
• Statws Rhodd Gymorth
• Hanes ymweliadau â’n gwefan
• E-byst a anfonwyd, a agorwyd ac a gliciwyd (cedwir cofnod o ba e-byst a
anfonwyd atoch,
pa rai a agorwyd gennych a pha ddolenni y buoch yn clicio arnynt).
• Hysbysrwydd a anfonwyd atoch

4.3 Data personol sensitif
Mae deddfwriaeth Gwarchod Data yn cydnabod bod rhai gategorïau o wybodaeth bersonol yn fwy sensitif megis gwybodaeth am iechyd, hil, credau crefyddol a barnau gwleidyddol. Nid ydym fel arfer yn casglu’r math hwn o wybodaeth ynglyn â’n cwsmeriaid os nad oes rheswm clir dros wneud hynny.
‘Fodd bynnag ‘rydym yn casglu gwybodaeth am alergeddau mewn cysylltiad ag aelodau’r Ysgol Lwyfan, Theatr Ieuenctid, Ysgol Ddawns, Theatr Gymuned ac unrhyw ddosbarthiadau, gweithdai a phrosiectau eraill yr adran Ddysgu Creadigol er lles yr aelodau yn ystod sesiynau. Ni ddefnyddir y wybodaeth hon ond yn unol â’r
polisi hwn a chymerir y camau angenrheidiol i warchod y wybodaeth a’i chyfrinachedd.
Fel rhan o’ch cyfranogaeth yn rhai o’n rhaglenni gellir defnyddio’ch data yn wahanol i’r hyn a osodir i lawr yn y polisi hwn.

Defnyddir eich data personol at bwrpasau busnes dilys penodol a all gynnwys rhai, neu bob un, o’r canlynol (onibai eich bod yn gofyn i ni beidio â gwneud hynny):
• Prosesu archeb / pryniad a gwireddu taliad trwy ein gwefan, dros y ffôn neu mewn person
• Gosod i fyny cyfrif cwsmer
• Eich galluogi i wneud cyfraniad (unai un cyfraniad yn unig neu drefniad sy’n parhau trwy Just Giving)
• Defnyddio’ch data i sicrhau y gallwn gyflawni ein cytundeb gwasanaeth gyda chi
• Eich hysbysu am newid i berfformiad, yn cynnwys newid yn yr amser neu gansliad (o dan amgylchiadau eithriadol)
• Cysylltu â chi gyda gwybodaeth ynglyn â’ch ymweliad â’r theatr
• Anfon atoch arolwg ar ôl y sioe trwy’r e-bost i’n helpu i ddeall sut y gallwn wella’r gwasanaeth yr ydym yn darparu ar eich cyfer
• Storio’ch data ar system ddiogel
• Sicrhau yr anfonir atoch hysbysrwydd marchnata perthnasol am
berfformiadau, gweithgareddau a chynnyrch yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth trwy e-bost, post neu dros y ffôn
• Rhannu’ch data’n ddiogel gyda chyflenwr i ymgymryd â phostio’n uniongyrchol ar ein rhan
• Cysylltu â chi i gydnabod a diolch am gyfraniad a dderbyniwyd gennych
• Rheoli data ar daenlenni diogel sy’n annibynnol o system ein Swyddfa Docynnau
• Dileu (peidio â defnyddio) eich data ar ôl diffyg gweithredu (6 blynedd)
• Defnyddio data anhysbys i helpu gwneud ein cyfathrebiadau marchnata’n fwy effeithiol
• Defnyddio data anhysbys i adrodd yn ôl i’n cefnogwyr ariannol
• Cylchrannu’ch data er mwyn sicrhau yr anfonir gwybodaeth berthnasol atoch
• Defnyddio meddalwedd sy’n anfon llwyth o e-byst mewn cysylltiad â’n cyfathrebiadau marchnata
• Cysylltu â chi gyda manylion ynglyn â sut y gallwch gefnogi’n gwaith trwy wneud cyfraniad
• Eich galluogi i rag-archebu bwyd a diod o’n Bar Caffi
• I rag-archebu unrhyw wasanaethau neu gynnyrch ychwanegol a gynigir gennym fel rhan o’ch ymweliad â’r theatr
• Monitro a dadansoddi ymweliadau â’n gwefan trwy Gwcis
• Defnyddio Cwcis i ail-dargedu’r sawl sydd wedi ymweld â’n gwefan trwy hysbysebu ar-lein
• Gellir defnyddio ffotograffau o’n cynulleidfa yn yr awditoria yn ein deunydd marchnata ac hyrwyddo
• Gellir cymryd ffotograffau o aelodau’r Ysgol Lwyfan, y Theatr Ieuenctid, yr Ysgol Ddawns, y Theatr Gymuned ac unrhyw ddosbarthiadau, gweithdai neu brosiectau eraill yr adran
Ddysgu Creadigol, a’u defnyddio at bwrpasau dogfennol a marchnata
• Gwneud a storio ffilm at bwrpasau diogelwch (CCTV)
• I gysylltu ag ysgolion a cholegau ynglyn â pherfformiadau a phrosiectau perthnasol sy’n dod yn fuan
• I gysylltu ag aelodau’r wasg gyda gwahoddiadau i nosweithiau’r wasg, datganiadau i’r wasg a syniadau a chyfleoedd am straeon
• I wahodd cefnogwyr ariannol, rhanddeiliaid ac aelodau’r diwydiant theatr i nosweithiau gwahodd
• I anfon gwybodaeth ynglyn â datblygiadau newydd yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth, sydd er lles y cyhoedd, at gefnogwyr ariannol, rhanddeiliaid a chynrychiolwyr cyhoeddus
• I reoli cysylltiadau gyda darpar gefnogwyr ariannol a darpar gyfranwyr
• I gysylltu â chwsmeriaid Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth trwy e-bost a thrwy’r post gyda gwybodaeth ynglyn â pherfformiadau a’r newyddion diweddaraf
• I reoli gweinyddiaeth yr Ysgol Lwyfan, y Theatr Ieuenctid, yr Ysgol Ddawns, rhaglenni’r Theatr Gymuned ac unrhyw ddosbarthiadau, gweithdai a phrosiectau eraill yr adran Ddysgu Creadigol sy’n cynnwys cysylltu â rhieni/gwarcheidwaid os oes newidiadau i sesiynau etc.

Gyda’ch caniatâd, byddwn yn cysylltu â chi i’ch hysbysu am ddigwyddiadau sy’n dod yn fuan, cynigion yn ein siopau a’n caffis, diweddariadau i’n cynlluniau a’r cynnydd sy’n cael ei wneud, a gellir gofyn i chi ymuno fel aelod, gwneud cyfraniad neu gynnig
mathau eraill o gefnogaeth.
‘Rydym yn ei gwneud yn hawdd i chi ddweud wrthym sut yr ydych am i ni gysylltu â chi, mewn modd sy’n gyfleus i chi. Mae ein ffurflenni marchnata yn cynnwys categorïau clir i chi ddewis beth sydd gorau gennych ac ‘rydym yn cynnig yr opsiwn i optio allan pan anfonir deunydd marchnata atoch. Os nad ydych yn dymuno clywed oddi wrthym, mae hynny’n iawn. Jyst gadewch i ni wybod pan ‘rydych yn rhoi eich gwybodaeth i ni, newidiwch eich dewisiadau unrhyw amser trwy newid y gosodiadau perthnasol yn adran “Fy Nghyfrif” ein gwefan aberystwythartscentre.co.uk, cliciwch i ddileu’ch tanysgrifiad ar dudalen gylchlythyr y wefan neu gysylltwch â’r:
• Swyddfa docynnau 01970 62 32 32 artstaff@aber.ac.uk neu’r
• Adran farchnata artscentre-marketing@aber.ac.uk
• Siopau aberartshop@aber.ac.uk

Mae Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth fel rhan o Brifysgol Aberystwyth, yn rheolwr data ar gyfer y data yr ydym yn casglu a storio. Mae data yn cael ei gasglu a’i storio trwy’r sytemau a’r platfformau canlynol:
• Trwy unigolion yn tanysgrifio i dderbyn e-byst ac yn ymuno â’n rhestr bost trwy ein gwefan. Darperir y ffurflen danysgrifio gan gwmni Ticketsolve.
• Mae Ticketsolve yn cyflenwi system ein Swyddfa Docynnau sy’n dal eich cyfrifon, hanes pryniant, manylion cyswllt a’ch dewisiadau ynglyn â chyfathrebu, ac sy’n caniatau i ni gynhyrchu adroddiadau a rhestrau marchnata ar gyfer gweithgarwch marchnata. Mae Ticketsolve yn defnyddio Gwasanaethau Gwe Amazon (AWS) fel ein darparwr cynhaliol, gan sicrhau bod yr holl ddata cwsmeriaid a chwmni yn cael ei storio’n ddiogel yn y cwmwl. Cedwir ein data yn benodol yng Nghanolfan Ddata Dulyn AWS, sy’n cydymffurfio’n llawn â’r holl ddeddfwriaeth Gwarchod Data.
• ‘Rydym yn defnyddio Mailchimp i anfon e-byst marchnata
• ‘Rydym yn defnyddio Purple 7 i greu arolygon ar ôl y sioeau
• Artifax yw ein system bwcio ystafelloedd lle gellir storio data’n gysylltiedig â chwmnïau sy’n ymweld â’r Ganolfan.
• Mae World Pay yn prosesu taliadau ein Swyddfa Docynnau / Mae Paypal yn prosesu pryniadau siop ar-lein
• Gellir defnyddio amrediad o wasanaethau eraill
Ni phrosesir eich gwybodaeth bersonol yn awtomataidd mewn modd a all gael effaith negyddol ar unrhyw unigolyn. Cedwir y wybodaeth bersonol a ddarperir gennych yn ddiogel ac ni fydd yn cael ei defnyddio at unrhyw bwrpas arall ond yr hyn a nodir yn y
polisi hwn. ‘Rydym yn sicrhau bod ‘na reolaethau technegol priodol yn bodoli sy’n gwarchod eich gwybodaeth bersonol. Mae’r wybodaeth a drosglwyddir gennym yn cael ei seiffro a’i gwarchod gan gyfrinair. Mae holl staff allweddol yr adran farchnata, y swyddfa docynnau, yr adran ddysgu creadigol a staff gweinyddol arall yn derbyn hyfforddiant mewn gwarchod data.

Rhedir y Siop Grefft a Dylunio, y siop lyfrau, y caffis a’r barrau trwy wasanaethau masnachol yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth (Gwasanaethau Masnachol Prifysgol Aberystwyth yn y gorffennol). Mae’r Siop Grefft a Dylunio yn defnyddio nifer o wasanaethau trydydd partïon i brosesu trafodion a data sy’n cynnwys y canlynol:
• Mae’r Siop Grefft a Dylunio a’r siop lyfrau yn defnyddio EKM i gynnal eu e-siop ac mae Paypal yn prosesu gwerthiannau ar-lein yr e-siop. Mae’r e-siop yn allanol i wefan Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth ac mae ganddi ddatganiad preifatrwydd ar wahân y gellir ei weld yma:
http://www.aberartscentreshop.co.uk/
• Mae’r siopau’n defnyddio Global Payments i brosesu trafodion cerdyn.
• Mae’r caffis a’r barrau yn defnyddio Haven ar gyfer eu systemnau til a
Verifone ar gyfer trafodion cerdyn.
Am ragor o wybodaeth cliciwh yma:
https://www.aber.ac.uk/en/visitors/terms&conditions

Os ydych yn cymryd rhan mewn un o weithdai, dosbarthiadau neu brosiectau ein hadran Ddysgu Creadigol, efallai bydd angen casglu gwybodaeth ychwanegol oddi wrthych gan gynnwys, er enghraifft, manylion meddygol, manylion unrhyw anawsterau dysgu neu anghenion mynediad arbennig, cyraeddiadau addysgol neu fanylion am brofiad artistig blaenorol. Defnyddir y wybodaeth hon gan Adran Ddysgu Creadigol a Swyddfa Docynnau Canolfan y Celfyddydau er mwyn cynllunio a darparu’r profiad artistig ac addysgol gorau oll, ac er mwyn cadw cyfranogwyr yn ddiogel gydol eu hamser gyda ni. Gellir trosglwyddo’r wybodaeth hon i’r gwasanaethau argyfwng i’w defnyddio pe bai unrhyw sefyllfa argyfwng yn codi.
Byddwn bob amser yn gofyn am eich caniatâd ynglyn â’r uchod pan ‘rydym yn casglu’ch gwybodaeth a, pan mae angen casglu’r wybodaeth hon mewn cysylltiad â phlant neu bobl ifanc, byddwn yn gofyn i rieni neu warcheidwaid i ddarparu’r wybodaeth a chaniatau i’w defnyddio at y pwrpasau a ddisgrifir.
Cyfrifon Facebook yr adran Ddysgu Creadigol
• Ysgol Ddawns Bale Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth Grŵp caeëdig
• YSGOL DDAWNS CANOLFAN Y CELFYDDYDAU ABERYSTWYTH Grŵp caeëdig
• Ysgol Lwyfan Grŵp Sgwrsio ar Messenger
Efallai y disgwylir i chi gyflenwi gwybodaeth mewn cysylltiad ag arholiadau cwrs i’r trydydd partïon canlynol:
• LAMDA
• Academi Ddawns Frenhinold
• ISTD

‘Rydym yn anhysbysu’ch cyfeiriad Protocol Rhyngrwyd (IP). Mae’n gwefan yn defnyddio cwcis i alluogi trafodion ar-lein, i ddeall sut mae pobl yn defnyddio’n gwefan ac i hysbysu ein hysbysebu digidol.
Pryd bynnag yr ydym yn gofyn i chi am eich gwybodaeth bersonol byddwn yn gadael i chi wybod paham yr ydym yn gofyn, a sut y byddwn yn defnyddio’ch gwybodaeth, trwy eich cyfeirio at y datganiad hwn.
Lle ‘rydym wedi rhoi i chi (neu le ‘rydych chi wedi dewis) cyfrinair sy’n eich galluogi i ymweld â rhannau penodol o’n safle, ‘rydych chi’n gyfrifol am gadw’r cyfrinair hwn yn gyfrinachol. Gofynnir i chi beidio â rhannu cyfrinair gydag unrhyw un.
Yn anffodus, nid yw trosglwyddo gwybodaeth trwy’r rhyngrwyd yn gwbl ddiogel. Er y gwnawn ein gorau i warchod eich gwybodaeth bersonol, ni fedrwn warantu diogelwch eich gwybodaeth a drosglwyddir i’n safle; mae unrhyw drosglwyddiad ar
eich cyfrifoldeb eich hun. Unwaith yr ydym wedi derbyn eich gwybodaeth, byddwn yn defnyddio gweithdrefnau a nodweddion diogelwch manwl er mwyn ceisio rhwystro mynediad anawdurdodedig.

10.1 Gwefannau Allanol
Mae’r wefan hon yn cynnwys dolenni i safleoedd allanol. Nid yw Canolfan y
Celfyddydau Aberystwyth yn gyfrifol am gynnwys, argaeledd neu ansawdd unrhyw
ddeunydd a gynhwysir ar safleoedd o’r math ac ni ddylid ystyried dolenni i safleoedd
allanol yn gadarnhad bod y Ganolfan neu Brifysgol Aberystwyth yn cefnogi’r barnau
a fynegir neu’r gwasanaethau a gynigir gan y safleoedd hynny.

10.2 Cwcis
Er mwyn gwneud ein gwefan yn haws i’w defnyddio a gwella ein gwasanaeth, ‘rydym
yn defnyddio cwcis, sef ffeiliau bychain sy’n cael eu storio ar eich cyfrifiadur. Mae’r
rhan fwyaf o wefannau yn defnyddio cwcis.
Cwcis yw ffeiliau sy’n cael eu storio yn eich porwr ac fe’u defnyddir gan y rhan fwyaf
o wefannau i helpu personoli eich profiad o’r we. Ni fydd rhai o nodweddion y safle
hwn yn gweithio os nad ydych yn caniatau cwcis.
Mae’r rhestr o gwcis sy’n cael eu gosod ar hyn o bryd ar wefan y Ganolfan yn
cynnwys:

– AAC CMS:  wp-wpml_current_language
– Google (Google Analytics): _ga_*, _ga
– Facebook: fr, (if a user is logged in to FB) c_user, datr, pl, presence, sb, wd, xs
– Ticketsolve
– ShareThis: __stid, pxcelBcnLcy, pxcelPage_c010, _unam
– Soundcloud: __utma, __utmb, __utmc, __utmt, __utmz, sc_anonymous_id,
G_AUTHUSER_H, G_ENABLED_IDPS, __qca, __utma (second), __utmb (second),
__utmc (second), __utmz (second), _soundcloud_session, a, c, i, ja, l, p, qc, qg,
qp, qt, qu, remember_me_flag, rubicon_last_sync, rubicon_user_id,
sc_anonymous_id, sclocale, u
– Twitter: _ga, _gat, _gid, _twitter_sess, ads_prefs, auth_token, ct0, dnt, eu_cn,
guest_id, kdt, personalization_id, remember_checked_on, twid
– Vimeo: vuid, __qca, __ssid, _ceg.s, _ceg.u, _ga, _gat_UA-76641-8, _gid, _uetsid,
auth_xsrft, new_user_from_redirect, optimizelyBuckets, optimizelyEndUserId,
optimizelySegments, vimeo
– YouTube: YSC, __Secure-YEC, VISITOR_PRIVACY_METADATA, VISITOR_INFO1_LIVE,
CONSENT

11.1 Trydydd partïon

Rhagwelir y bydd eich Data Personol yn cael ei ddatgelu i’r categorïau canlynol o gyflenwyr gwasanaeth trydydd-parti sy’n gweithredu ar ein rhan. ‘Rydym yn mynnu eu bod ond yn defnyddio eich Data Personol fel bo angen er mwyn darparu’r gwasanaethau y gofynnir amdanynt, ac mae pob cyflenwr gwasanaeth yn rhwym wrth set o dermau sy’n cydfynd â’r Polisi Preifatrwydd hwn.
• Cyflenwyr cynnal sy’n storio ac yn trosglwyddo’ch data’n ddiogel
• Cyflenwyr rheoli hunaniaeth at bwrpasau dilysiad
• Cyflenwyr meddalwedd storio data sy’n rheoli ac yn tracio’ch data
• Ymgynghorwyr cyfreithiol a chydymffurfio â deddfau, megis cyngor allanol,
archwilwyr allanol, neu ymgynghorwyr treth
• Cyflenwyr marchnata sy’n anfon cyfathrebiadau ar ein rhan ynglyn â’n cynnyrch a gwasanaethau
• Cyflenwyr datrys taliadau sy’n prosesu’ch taliadau i ni’n ddiogel
• Gwerthwyr cyflawniad a phost sy’n cyflawni ein cynnyrch a gwasanaethau
Mae trydydd partïon yn cynnwys y cyflenwyr gwasanaeth canlynol sy’n prosesu data ar ein rhan ac yn unol â’n gofynion:
• System Ticketsolve y Swyddfa Docynnau
• Mailchimp (e-bost)
• Gwasanaeth Cipolwg ar Gynulleidfa Clearview (sy’n trin data’n anhysbys)
• Yr Asiantaeth Gynulleidfa (sy’n trin data’n anhysbys)
• Cambrian Printers (sy’n anfon allan llyfryn y Ganolfan ar ein rhan)
• EKM (siopau)
• Paypal (siopau)
Trydydd partïon yr adran Ddysgu Creadigol:
• LAMDA
• Academi Ddawns Frenhinol
• ISTD
Yn yr achosion hyn ‘rydym yn mynnu bod y trydydd partïon hyn yn cydymffurfio’n llwyr â’n gofynion a gyda deddfau gwarchod data, er enghraifft o gwmpas diogelu data personol. ‘Rydym fel rheol yn gosod cytundeb preifatrwydd data yn ei le sy’n gosod allan ein disgwyliadau a’n gofynion, yn arbennig mewn cysylltiad â sut maent yn rheoli’r wybodaeth bersonol a gesglir ganddynt.
Pan ‘rydych yn tanysgrifio i dderbyn ein cylchlythyrau trwy e-bost, ‘rydych yn derbyn yr e-byst hyn trwy Mailchimp sy’n brosesydd data yn gweithredu y tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd (EEA). Er nad ydynt yn gorfod cydymffurfio â’r un deddfau
gwarchhod data â chwmnïau’r DU, byddwn yn cymryd camau i sicrhau eu bod yn darparu lefel ddigonol o ddiogelwch yn unol â deddfau gwarchod data’r DU. Trwy gyflwyno eich gwybodaeth bersonol i ni ‘rydych yn cytuno â’r trosglwyddiad hwn, yn
storio neu’n prosesu data mewn lleoliad y tu allan i’r EEA (yn cynnwys yr Unol Daleithiau).
Ni fyddwn yn rhannu data gyda chwmnïau sy’n ymweld a enwir.

11.2 Rhwymedigaethau cyfreithiol
Gellir rhannu’ch data lle ‘rydym o dan ddyletswydd i ddatgelu’ch gwybodaeth bersonol er mwyn cydymffurfio ag unrhyw rwymedigaethau cyfreithiol (er enghraifft i gyrff llywodraethol ac asiantaethau gweithredu’r gyfraith).

‘Rydym yn ymdrechu i gadw’ch gwybodaeth bersonol yn gywir a’i diweddaru. Os ydych yn ymwybodol o unrhyw wallau neu anghywirdebau, e-bostiwch artstaff@aber.ac.uk os gwelwch yn dda neu gallwch ddiweddaru’r wybodaeth trwy ddefnyddio’r adran “Fy Nghyfrif” ar ein gwefan. Siopau: aberartshop@aber.ac.uk Buaswn yn hynod ddiolchgar pe medrwch adael i ni wybod os yw’ch manylion cyswllt
yn newid.

Cedwir eich gwybodaeth bersonol ond am mor hir ag sy’n angenrheidiol:

13.1 Cyfrifon a chofnodion archebu 
Os ydych wedi cytuno yn y gorffennol i dderbyn deunydd marchnata ond nid ydych
wedi archebu ar gyfer perfformiad yn ystod y tair blynedd diwethaf, byddwn yn e-bostio i ofyn i chi i adnewyddu eich caniatâd. Os nad ydym yn clywed oddi wrthych o fewn un mis ni fyddwn yn cysylltu â chi. Ar ôl chwe blynedd o ddiffyg weithredu ar gyfrif daw’r cofnod yn gwbl anhysbys, gyda dim ond cofnod o’r trafodion yn cael ei gynnal ar gyfer ein ffeiliau. Byddwn yn gwneud yn siwr o bryd i’w gilydd bod eich manylion a’r ffyrdd o gysylltu â chi wedi eu gosod fel yr hoffech iddynt fod.

13.2 E-restr
Os ydych yn tanysgrifio i dderbyn e-byst oddi wrthym, byddwn yn cysylltu â chi o bryd i’w gilydd i sicrhau eich bod am i ni barhau i’w hanfon. Mae’r opsiwn i ganslo’r tanysgrifiad yn ymddangos ar ein holl gyfathrebiadau e-bost.

13.3 Defnyddio CCTV
‘Rydym yn cadw ffilm CCTV am 1 mis. Fe’i cedwir gan adran Ddiogelu Safle Prifysgol Aberystwyth. Cysylltwch â sitesecurity@aber.ac.uk am ragor o wybodaeth.

Mae ‘na dair sail i’n system prosesu’ch data:

14.1 Cytundeb
Pan ‘rydych yn prynu tocynnau neu gynnyrch arall oddi wrthym neu’n cyflwyno rhodd i ni, ‘rydych yn ymgymryd â chytundeb gyda ni. Er mwyn gweithredu’r cytundeb hwn rhaid i ni brosesu a storio’ch data. Mae’r sail gyfreithiol hon yn gymwys mewn cysylltiad â’r canlynol:
• Wrth brosesu archeb a chadarnhau taliad trwy’n gwefan, dros y ffôn neu mewn person
• Sefydlu cyfrif cwsmer
• Eich galluogi chi i gyflwyno rhodd (unai unwaith yn unig neu fel trefniad parhaol trwy Just Giving)
• Defnyddio’ch data i sicrhau y gallwn gyflawni ein cytundeb gwasanaeth gyda chi
• Eich hysbysu am newid i berfformiad, yn cynnwys newid yn yr amser neu gansliad (o dan amgylchiadau eithriadol)
• Cysylltu â chi gyda gwybodaeth ymlaen llaw mewn cysylltiad â’ch ymweliad â’r theatr
• Storio’ch data ar system ddiogel
• Cysylltu â chi i gydnabod a diolch am gyfraniad a dderbyniwyd gennych
• Eich galluogi i archebu bwyd a diodydd ymlaen llaw o’n Bar Caffi
• I rag-archebu unrhyw wasanaethau neu gynnyrch ychwanegol a gynigir gennym fel rhan o’ch ymweliad â’r theatr

14.2 Caniatâd
Byddwn yn gofyn am eich caniatâd cyn defnyddio’ch gwybodaeth bersonol yn yr achosion canlynol. Gallwch dynnu’ch caniatâd yn ôl unrhyw amser a gallwch wneud hyn trwy logio i mewn i’ch cyfrif neu ffonio’r Swyddfa Docynnau. Yr achosion lle mae’ch caniatâd yw sail gyfreithiol ein prosesu yw:
• Sicrhau yr anfonir deunydd marchnata perthnasol atoch ynglyn â
pherfformiadau, digwyddiadau a chynnyrch yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth trwy e-bost, trwy’r post neu dros y ffôn.
• I gysylltu â chi gyda manylion ar sut y gallwch gefnogi ein gwaith trwy wneud cyfraniad
• I gymryd a defnyddio ffotograffau o gyfranogwyr Theatr Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth at bwrpasau dogfennol a marchnata.

14.3 Buddiannau busnes dilys
Mewn rhai sefyllfaoedd ‘rydym yn casglu ac yn prosesu’ch gwybodaeth bersonol at bwrpasau sydd er ein budd cyfundrefnol dilys. ‘Rydym ond yn gwneud hyn os nad oes unrhyw anfantais amlwg i chi fod ni’n defnyddio’ch gwybodaeth bersonol yn y modd hwn. Y canlynol yw’r sefyllfaoedd lle ‘rydym yn defnyddio budd dilys fel sail gyfreithiol ein prosesu:
• Anfon atoch arolwg ar ôl y sioe trwy’r e-bost i’n helpu i ddeall sut y gallwn wella’r gwasanaeth yr ydym yn darparu ar eich cyfer
• Rhannu’ch data’n ddiogel gyda chyflenwr i ymgymryd â phostio’n uniongyrchol ar ein rhan
• Rheoli data ar daenlenni diogel sy’n annibynnol o system ein Swyddfa Docynnau
• Dileu (peidio â defnyddio) eich data ar ôl diffyg gweithredu (6 blynedd)
• Defnyddio data anhysbys i helpu gwneud ein cyfathrebiadau marchnata’n fwy effeithiol
• Defnyddio data anhysbys fel y gallwn adrodd yn ôl i’n cefnogwyr ariannol
• Cylchrannu’ch data er mwyn sicrhau yr anfonir gwybodaeth  berthnasol atoch
• Defnyddio meddalwedd sy’n anfon llwyth o e-byst mewn cysylltiad â’n cyfathrebiadau marchnata
• I gymryd ffotograffau o’n cynulleidfa yn yr awditoria neu yn ein mannau cyhoeddus i’w defnyddio wrth farchnata ac hyrwyddo’n gweithgareddau
• Gwneud a storio ffilm at bwrpasau diogelwch
• I gysylltu ag ysgolion a cholegau ynglyn â pherfformiadau a phrosiectau perthnasol sy’n dod yn fuan
• I gysylltu ag aelodau’r wasg gyda gwahoddiadau i nosweithiau’r wasg, datganiadau i’r wasg a syniadau a chyfleoedd am straeon
• I wahodd cefnogwyr ariannol, rhanddeiliaid ac aelodau’r diwydiant theatr i nosweithiau gwâdd
• I anfon gwybodaeth ynglyn â datblygiadau newydd yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth, sydd er lles y cyhoedd, at gefnogwyr ariannol, rhanddeiliaid a chynrychiolwyr cyhoeddus
• I reoli cysylltiadau gyda darpar gefnogwyr ariannol a darpar gyfranwyr
• I gysylltu â chwsmeriaid Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth trwy e-bost a thrwy’r post gyda gwybodaeth ynglyn â pherfformiadau a’r newyddion diweddaraf
• I reoli gweinyddiaeth yr Ysgol Lwyfan, y Theatr Ieuenctid, yr Ysgol Ddawns, rhaglenni’r Theatr Gymuned ac unrhyw ddosbarthiadau, gweithdai a phrosiectau eraill yr adran Ddysgu Creadigol sy’n cynnwys cysylltu â rhieni/gwarcheidwaid os oes newidiadau i sesiynau etc.
Yn yr holl achosion uchod byddwn bob amser yn rhoi blaenoriaeth i’ch hawliau a’ch buddiannau chi er mwyn sicrhau nad ydynt yn dioddef yn sgil ein buddiannau ni neu’n hawliau a rhyddid sylfaenol.
Mae gennych yr hawl i wrthwynebu unrhyw brosesu unrhyw amser. Os ydych yn dymuno gwneud hyn defnyddiwch y manylion cyswllt ar ddiwedd y polisi hwn os gwelwch yn dda. Cadwch mewn cof y gall hyn effeithio ar ein gallu i ymgymryd â thasgau sydd er eich lles chi.

15.1 Sut y gallwch weld y wybodaeth yr ydym yn dal amdanoch?
Mae gennych yr hawl i wybod pa wybodaeth bersonol yr ydym yn dal amdanoch, ac i ofyn am gopi o’r wybodaeth honno. Am wybodaeth ynglyn â sut i ofyn am gopi, gweler y dudalen hon os gweler yn dda :
https://www.aber.ac.uk/en/infocompliance/dp/request/
O dan y Rheoliadau Gwarchod Data Cyffredinol mae gennych yr hawliau canlynol:
1. Yr hawl i gael eich hysbysu
2. Yr hawl i gael mynediad
3. Yr hawl i gywiro
4. Yr hawl i ddileu
5. Yr hawl i gyfyngu prosesu
6. Yr hawl i gludo data
7. Yr hawl i wrthwynebu
8. Hawliau mewn cysylltiad â gwneud penderfyniadau a phroffilio awtomataidd Gweler rhagor o fanylion yma:
https://www.aber.ac.uk/en/infocompliance/policies/dp/data-subjectrights/
Yn dibynnu ar yr amgylchiadau, gallwch geisio arfer unryw un o’r hawliau hyn trwy ddiweddaru eich manylion, neu drwy anfon cais mewn ysgrifen at Tîm Llywodraethu Gwybodaeth yn defnyddio’r manylion cyswllt a restrir isod:

Tîm Llywodraethu Gwybodaeth,
Adran Llywodraethiant,
Llyfrgell Hugh Owen,
Penglais,
Aberystwyth,
Ceredigion
SY23 3DZ
Ffôn: 01970 628593
Ebost:  llywodraethugwyb@aber.ac.uk

Fe’ch anogir i adrodd unrhyw welliannau, awgrymiadau, neu unrhyw darfiadau ar breifatrwydd neu ddiogelwch i ni drwy ddefnyddio’r manylion cyswllt uchod neu gallwch gysylltu â:

Rachel Scurlock
Rheolwraig Farchnata a Chyfathrebiadau
Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
Prifysgol Aberystwyth
Penglais
Aberystwyth
Ceredigion
SY23 3DE
artscentre-marketing@aber.ac.uk

Bydd unrhyw wrthwynebiadau a wneir gennych i unrhyw brosesu o’ch data yn cael eu storio yn erbyn eich cofnod ar ein system fel y gallwn gydymffurfio â’ch gofynion.

Gall ein polisi preifatrwydd newid unrhyw amser, felly efallai y dymunech gyfeirio ato bob tro yr ydych yn ymweld â’n gwefan. Bydd unrhyw newidiadau yn gymwys o’r amser y’u gosodir ar y dudalen hon. Os ydym yn gwneud unrhyw newidiadau arwyddocaol yn y ffordd yr ydym yn trin eich gwybodaeth bersonol byddwn yn gwneud hyn yn glir ar ein gwefan neu drwy gysylltu â chi’n uniongyrchol.
Gallwch ffeindio allan rhagor am bolisïau’r Brifysgol ar brif wefan Prifysgol Aberystwyth www.aber.ac.uk yn cynnwys:
•Polisi Gwarchod Data
•Polisi Cwcis Corfforaethol y Wefan
•Dadansoddiad Data Corfforaethol y Wefan
• Rhyddid Gwybodaeth