Rydym yn trefnu digwyddiadau, arddangosfeydd, cyrsiau a dosbarthiadau i bobl o bob oed a chefndir. Mae eich cyfraniad yn ein helpu i roi mynediad i gymunedau Canolbarth Cymru at y profiadau celfyddydol gorau oll.
Sut bydd eich cyfraniad yn helpu:
Dod â phobl at ei gilydd
Cefnogi artistiaid
Rydym wedi ymrwymo i gefnogi artistiaid a pherfformwyr. Mae eich cyfraniad yn ein helpu i roi cyfleoedd iddynt, llwyfan i arddangos eu gwaith ac i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd
Cyfoethogi bywydau
Mae gan y celfyddydau’r pŵer i gyfoethogi ein bywydau a’n gwneud yn fwy creadigol a chysylltiedig. Mae eich cyfraniad yn ein helpu i wneud y celfyddydau yn hygyrch i bawb, waeth beth fo’u cefndir neu incwm.