Oeddech chi'n gwybod ein bod ni'n gartref i'r rhaglen ymgysylltu â'r gymuned fwyaf yng Nghymru?
Os ydych am gymryd rhan mewn gweithgaredd creadigol, rydym yn cynnal amrywiaeth o gyrsiau a dosbarthiadau ar draws pob ffurf ar gelfyddyd. Dysgwch rywbeth newydd, datblygwch grefft, neu hogwch eich sgiliau – â’r cwbl mewn amgylchedd cyfeillgar, cefnogol. Cymerwch amser i chi yn unig neu dewch â ffrind i rannu’r hwyl.





Cymryd rhan
Caru perfformio?
Dosbarthiadau a Chyrsiau
Byddwch yn Greadigol
‘Mae creadigrwydd yn heintus. Po fwyaf y byddwch chi’n dysgu ac yn rhoi cynnig ar bethau newydd, y mwyaf y byddwch chi’n tyfu fel person creadigol. Felly rydyn ni’n dod â phobl greadigol at ei gilydd, yn cefnogi’ch syniadau ac yn dod o hyd i gyfleoedd i arddangos eich doniau.”
Ysgolion a Cholegau
Rydym yn cynnal llawer o weithgareddau ar gyfer ysgolion a cholegau, gan gynnwys gweithdai creadigol mewn cerddoriaeth, dawns, drama, celf, crochenwaith ac ysgrifennu creadigol. Y cyfan wedi’i gynllunio i gyfoethogi’ch addysgu. Gellir cynnal gweithdai yma yng Nghanolfan y Celfyddydau neu gallwn ddod atoch chi.
I drafod cyfleoedd, cysylltwch â Laura Oliver lao8@aber.ac.uk.