Ewch at gynnwys

50 mlynedd o ddatblygiad

Sefydlwyd Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth yn y 1970au gan Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth gyda’r uchelgais o wasanaethu nid yn unig y Coleg, ond hefyd y dref a’r siroedd o amgylch.

Image
Image
Image
Image
Image Image
Image Image

50 mlynedd o ddatblygiad

Sefydlwyd Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth yn y 1970au gan Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth gyda’r uchelgais o wasanaethu nid yn unig y Coleg, ond hefyd y dref a’r siroedd o amgylch.

Pont rhwng y dref a’r gŵn

Agorwyd y Neuadd Fawr yn 1970. Wedi’i dylunio gan y pensaer Dale Owen o Percy Thomas Partnership, dyfarnwyd Medal Aur RIBA am Bensaernïaeth yng Nghymru iddi. Yn Hydref 1972 agorwyd ‘Theatr y Werin’, yn llythrennol ‘theatr y bobl’. Roedd hyn yn nodi cwblhau’r prosiect – a ganed Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth.

O’r cychwyn cyntaf dilynodd y Ganolfan bolisi rhaglennu cymysg amrywiol, gan annog a chefnogi grwpiau lleol ac ensembles y Brifysgol a gwahodd cwmnïau proffesiynol blaenllaw i Aberystwyth. Gwnaed y gwaith hwn yn bosibl trwy gefnogaeth barhaus y Brifysgol yn ogystal â chefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Chymdeithas Celfyddydau Gorllewin Cymru.

Cyn iddynt ddod yn enwog

Yn y blynyddoedd cynnar, o dan gyfarwyddyd Roger, roedd rhaglennu anturus y Ganolfan yn cynnwys cynyrchiadau yn cynnwys pobl fel Peter Postlethwaite a Julie Walters – sydd bellach yn enwau adnabyddus ym myd ffilm a theledu – a chwmnïau fel Welfare State.

Cymerodd Ken Williams, Cyn Gadlywydd Adain yr RAF a gweinyddwr y Ganolfan, yr awenau fel Rheolwr ym 1975. Gyda’i gariad at gerddoriaeth, fe feithrinodd raglen gyngherddau’r lleoliad i gynnwys cerddoriaeth glasurol a sioeau cerdd – sy’n dal i fod yn uchafbwynt yr haf. Ym 1985, roedd cynhyrchiad y Ganolfan o Godspell yn cynnwys ymddangosiad proffesiynol cyntaf Michael Ball ifanc, sydd bellach yn un o hoff sêr cerddorol y DU.

Newid sylweddol

Ym 1978, dechreuodd y Ganolfan ehangu i gelfyddydau gweledol ac arddangosfeydd gyda phenodiad Alan Hewson yn Swyddog Arddangosfeydd. Sefydlodd hefyd Gaffi Canolfan y Celfyddydau (1980), Siop Lyfrau (1981), a rhaglen ffilmiau. Ym 1984 gwelwyd y rhaglenni celfyddydau ac addysg cymunedol cyntaf sydd wedi dod yn nodwedd amlwg o weithgarwch y Ganolfan.

Penodwyd Hewson yn Gyfarwyddwr ym 1985, yr un flwyddyn y tynnodd Cyngor Celfyddydau Cymru arian yn ôl o lawer o theatrau a chanolfannau celfyddydau Cymru i ganolbwyntio ar waith gan gwmnïau theatr cynhyrchu. Er ei bod yn dal i dderbyn cefnogaeth graidd gan y Brifysgol, roedd yn golygu newid sylweddol i’r Ganolfan.

Mewn ymateb i hyn, datblygwyd tair strategaeth i arloesi’r rhaglen artistig, hunan-ariannu rhaglen gelfyddydau cymunedol oedd yn tyfu ac ehangu incwm y Ganolfan ei hun trwy ddatblygu ei gweithrediadau masnachol.

Does dim byd tebyg i ŵyl

Gwelwyd gwyliau fel ffordd strategol o ddatblygu rhaglen artistig y Ganolfan a denu cynulleidfaoedd newydd. Ym 1986, sefydlwyd Gŵyl Gerddoriaeth Ryngwladol ac Ysgol Haf Musicfest am y tro cyntaf ac ers hynny mae wedi tyfu i fod yn ddigwyddiad mawr yng nghalendr cerddoriaeth glasurol y DU. Dilynwyd hyn yn fuan gan yr Ŵyl Serameg Ryngwladol yn 1987 – diolch i gasgliad rhagorol y Brifysgol ei hun o grochenwaith yr ugeinfed ganrif. Bellach yn un o wyliau serameg mwyaf blaenllaw’r byd, mae’n denu dros 1,000 o grochenwyr a seramegwyr i Aberystwyth o bedwar ban byd.

Dros yr ugain mlynedd nesaf, sefydlodd a chefnogodd Canolfan y Celfyddydau ddeuddeg gŵyl arall dros ystod eang o ffurfiau celfyddydol. Datblygodd llawer ohonynt gyda sefydliadau ac unigolion sy’n parhau i fod yn bartneriaid allweddol hyd heddiw.

Gwireddu ei llawn botensial

I ddechrau, rhwystrwyd datblygu gweithrediadau masnachol y Ganolfan gan ddiffyg buddsoddiad cyfalaf. Fodd bynnag, yn dilyn cais llwyddiannus am arian Ewropeaidd ym 1993 a chwblhau ailddatblygiad gwerth £4.3 miliwn ym mis Ebrill 2000, gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru a Phrifysgol Aberystwyth, gwelwyd y Ganolfan yn gwireddu ei photensial yn llawn.

Yn 2009, adeiladwyd cyfadeilad arobryn o 18 o stiwdios creadigol a ddyluniwyd gan Thomas Heatherwick i gynnig gofodau i artistiaid, crefftwyr a busnesau celfyddydau creadigol.

50 mlynedd yn ddiweddarach

Adeiladwyd Canolfan y Celfyddydau gyda’r uchelgais o wasanaethu nid yn unig y Coleg ond hefyd y dref a’r cyffiniau, gan weithredu fel pont rhwng y “dref a’r gŵn”. Diolch i’r weledigaeth gychwynnol hon, heddiw, 50 mlynedd yn ddiweddarach, rydym wedi dod yn ganolbwynt diwylliannol ffyniannus, gan roi mynediad i gymunedau Canolbarth Cymru at y profiadau celfyddydol gorau posibl, a hynny ar garreg eu drws.