Ewch at gynnwys
Event Image
Iau 19 Meh
·
Cerddoriaeth

Event Info

Byddwch yn barod i glywed Aled Jones fel nad ydych erioed wedi'i glywed o'r blaen.

Ef oedd y bachgen gyda’r llais soprano angylaidd a swynodd y byd. Gan werthu dros saith miliwn o albymau, Aled oedd y seren clasurol gwreiddiol i apelio at wahanol fathau o gynulleidfa.Yn dilyn ei recordiad o Walking in the Air, o'r ffilm animeiddiedig The Snowman, sefydlwyd ef yn enw cyfarwydd ac mae wedi dod yn rhan annatod o ddathliadau Nadolig y genedl.

Yr un mor gartrefol ar y llwyfan clasurol neu’n serennu mewn cynyrchiadau theatr gerddorol yn West End Llundain, mae ei gredydau’n cynnwys rolau arweiniol yn Joseph and the Amazing Technicolor Dreamcoat, Chitty Chitty Bang Bang a White Christmas gan Irving Berlin.

Fel canwr, mae galw mawr am Aled yn fyd-eang ac mae wedi perfformio mewn lleoliadau mwyaf eiconig y byd, o Neuadd Frenhinol Albert yn Llundain i Dŷ Opera Sydney. Yn ffefryn gyda'r teulu brenhinol, Mae’n ddarlledwr teledu a chyflwynydd radio arobryn sydd wedi cyfweld cannoedd o sêr Rhestr-A dros y blynyddoedd. Mae’n cyflwyno Songs of Praise y BBC a’i sioeau ei hun ar fore dydd Sadwrn a dydd Sul ar Classic FM bu hyd yn oed yn rhoi perfformiad preifat i'r Brenin Siarl III ym Mhalas Kensington.

‘Nawr, ar ôl 40 mlynedd yn y busnes, mae’n edrych yn ôl ar ei yrfa ryfeddol gyda sioe un-dyn, a fydd yn cynnwys cerddoriaeth nas clywyd erioed o’r blaen, hanesion ar draws y degawdau ac am y tro cyntaf, ei stori’n cael ei hadrodd yn ei eiriau ei hun. Mae pethau wedi troi’n Llawn Gylch.

Event Image

Dates & Tickets

Dydd Iau 19 Mehefin, 2025
19:00