Event Info
Canllaw Oedran: Croeso i bawb
Rhediad: 60 munud / toriad 20 munud / 60 munud
Mae Côr Meibion Johns’ Boys yn dod â thro modern, arloesol i’r Côr Meibion Cymreig traddodiadol. Mwynhewch eu fersiynau trawiadol nhw o ffefrynnau’r siartiau, opera, caneuon y sioeau cerdd, clasuron adnabyddus ac alawon emyn traddodiadol.
Mae’r côr wedi ennill miliynau o ddilynwyr newydd ers ymddangos ar sioeau byw Britain’s Got Talent ac fe’u disgrifiwyd gan Simon Cowell fel “Côr bendigerdig. ‘Dwi wrth fy modd!".
Anghenion Mynediad: A wnewch chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw anghenion mynediad a fyddai’n gofyn am seddi addas, neu os oes angen lle priodol i gadair olwyn yn yr awditoriwm.