Ewch at gynnwys
Event Image
Gwe 24 Hyd - Sad 25 Hyd
·
Cerddoriaeth

Event Info

Cyfyngiad Oedran: 14+ oed YN UNIG

Rhediad: 55 munud/toriad 20 munud/55 munud

Dim jyst yn sioe ddrag arall, mae QUEENZ yn Strafagansa Ddrag LEISIOL FYW ARLOESOL sydd wedi ysgubo cynulleidfaoedd ym mhobman!

Yn syth o’r West End yn Llundain ac yn dilyn eu hymddangosiad cyntaf hynod lwyddiannus yn Las Vegas, mae’r Queenz beiddgar a bendigedig yn dod â’u sioe fyw wefreiddiol i’r llwyfan. Paratowch ar gyfer noson lle mae Dancing Queenz a Disco Dreams yn gwrthdaro, gan gyflwyno'r dathliad eithaf o gewri’r byd pop ar draws y degawdau.

Ac yn ogystal â’r glits a’r glamor - mae Drag Me To The Disco yn llawn calon, talent aruthrol a lleisiau gwych. Byddwch yn barod i ganu nerth eich pen, chwerthin nes ei bod yn brifo, a hyd yn oed wylo ychydig wrth i'r breninesau hyn fynd â chi ar daith gyffrous llawn difyrrwch ac emosiwn. Gyda mwy o secwinau, syrpreisys a sêr nag erioed o’r blaen, dyma wledd na ddylech ei methu!  Hwyl go iawn.  Talentau di-rif. Ac, wrth gwrs, DIFAS Y DISGO!

Anghenion Mynediad: A wnewch chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw anghenion mynediad a fyddai’n gofyn am seddi addas, neu os oes angen lle priodol i gadair olwyn yn yr awditoriwm.

Event Image

Dates & Tickets

Dydd Gwener 24 Hydref, 2025
19:00
Dydd Sadwrn 25 Hydref, 2025
19:00