Ewch at gynnwys
Event Image
Sad 22 Maw
·
Cerddoriaeth

Event Info

Mae ffans y Beatles yn paratoi i gael eu syfrdanu gan hoff fand teyrnged y byd (a anwyd yn Lerpwl) i’r Fab Four.  Mae’r Mersey Beatles wedi bod yn difyrru cynulleidfaoedd orlawn gyda’u sioeau ledled y byd ers 1999 gyda’u dathliad gwirioneddol gywir a chlodwiw o gerddoriaeth John, Paul, George a Ringo.  Mae’r band - a ymddangosodd dros 600 o weithiau yn ystod cyfnod preswyl 10-mlynedd yng Nghlwb Cavern enwog Lerpwl - yn adlewyrchu’n wych ysbryd mewnol ac allanol aelodau’r band gwreiddiol.  O’r gwisgoedd, yr offerynnau, y ffraethineb Sgowsaidd hyfryd ac, wrth gwrs, y sain Ferswy wych honno a ddiffiniodd y cyfnod, mae sioe lwyfan fyw syfrdanol y Mersey Beatles yn ddathliad gwych, wedi’i gyflwyno’n odidog, o’r gerddoriaeth a newidiodd y byd.  Yn ystod dwy awr fythgofiadwy, mae’r gynulleidfa yn cael ei chludo ar daith hudolus trwy hoff ganeuon Beatlemania, creadigrwydd seicedelig Sgt Pepper i ryfeddod melodig ac egni gwaith diweddarach y Beatles.  Felly, dewch ynghyd i fwynhau’r sioe arbennig hudolus hon - gallwn eich sicrhau y cewch amser wrth eich bodd!!  SYLWADAU AM Y MERSEY BEATLES…   “Mae’r Mersey Beatles wedi llwyddo i ddal sain y Beatles i’r dim. Mae ganddynt y ddawn wych honno i gael pobl i fyny ar eu traed yn dawnsio … byddai John wedi bod wrth ei fodd efo hynny!” Julia Baird, chwaer John Lennon   “Pan welais nhw’n chwarae yn y Cavern, buont yn ail-greu’n berffaith yr awyrgylch a gynhyrchwyd gan y Beatles gwreiddiol. ‘Roedd jyst fel gwrando ar y Beatles eto.” Joe Flannery, Cynorthwy-dd Brian Epstein, rheolwr y Beatles   "Y band teyrnged gorau i’r Beatles o gwmpas heddiw” Clwb Prydeinig Ffans y Beatles  “Bron iawn cystal â gweld y Beatles gwreiddiol yn fyw” The Morning Call, UDA
Event Image

Dates & Tickets

Dydd Sadwrn 22 Mawrth, 2025
20:00