Ewch at gynnwys
Event Image
Sad 12 Ebr
·
Cerddoriaeth

Event Info

Ugain Mlynedd o Pink Floyd!

Bydd 2025 yn flwyddyn arbennig i Darkside, sef sioe Pink Floyd, wrth iddynt ddathlu ugain mlynedd o fod ar y ffordd. Yn y cyfnod hwnnw maent wedi perfformio mewn mannau ysblennydd, gan gynnwys Clawdd Offa, Eglwys Gadeiriol Wells, a pherfformiad unigryw o The Dark Side of the Moon yn y Ganolfan Ofod Genedlaethol, i enwi ond ychydig.

Bydd y sioe yn cynnwys perfformiadau llawn o Wish You Were Here, i nodi hanner canmlwyddiant yr albwm anhygoel hwnnw, a’r gwaith arloesol The Dark Side of the Moon. Bydd yr eithriadol Cariss Auburn, sydd wedi swyno cynulleidfaoedd ym mhob man y mae Darkside yn perfformio, yn cyfrannu ei hud arbennig unwaith eto.

I danlinellu’r flwyddyn arbennig hon, bydd cynulleidfaoedd yn derbyn rhaglen 20fed pen-blwydd am ddim gyda phob tocyn, a mynediad i fideo syfrdanol o berfformiad byw gan Darkside o The Dark Side of the Moon.

www.darksidefloydshow.com

I FFANS FLOYD, GAN FFANS FLOYD

Event Image

Dates & Tickets

Dydd Sadwrn 12 Ebrill, 2025
19:00