Ewch at gynnwys
Event Image
Gwe 17 Hyd
·
Festival

Event Info

www.theeyefestival.com

Gwener 17 - Sul 19 Hydref 2025

Os oes angen seddi hygyrch arnoch, cysylltwch â'r Swyddfa Docynnau ar 01970 623232.

Wedi’i sefydlu yn 2012 a bellach yn ei deuddegfed flwyddyn,Gŵyl FfotograffiaethRyngwladol eilflwydd y LLYGAD yw’r digwyddiad ffotograffiaeth mwyaf sefydledig yng Nghymru ac un o’r gwyliau ffotograffiaeth annibynnol mwyaf ei maint yn y DU, gan ddenu cynulleidfaoedd yn amrywio o fyfyrwyr brwdfrydig i ffotograffwyr proffesiynol cydnabyddedig o bob rhan o’r byd.

Noddwyr: Camerâu Caerfyrddin a’r Cyngor Ffotograffwyr

Amserlen

Nos Wener                

7pm               Philip Hatcher Moore

Dydd Sadwrn            

10am              Denise Maxwell

11.30am         Liam McBurney

1 - 4pm           Cinio, gweithdai, ymweliadau â’r LlyfrgellGenedlaethol

                        Sesiynau portffolio, amser arddangosfa

4pm                Harry Borden

6.30pm           Ffilm: Tish (15)

Dydd Sul                    

10am              Joel Goodman

11.30am         TBC

1 - 2pm           Cinio                          

2pm               Jenny Matthews

3.30pm           Sesiwn Panel gyda Siaradwyr Gwadd

                                                           

Ynglyn â’r Siaradwyr:

Harry Borden

Harry Borden yw un o ffotograffwyr portreadau gorau’r DU. Mae ei waith wedi ymddangos mewn llawer o gyhoeddiadau amlycaf y byd, gan gynnwysThe New Yorker,VogueaTime. ‘Roedd Borden yn enillydd gwobr yng nghystadeluaeth Ffotograff Gwasg y Byd ym 1997 a 1999, gan gymryd rhan wedyn fel aelod o’r rheithgor ar gyfer y gwobrau yn 2010 a 2011. Cafodd ei arddangosfa unigol gyntaf yn yr Oriel Bortread Genedlaethol yn Llundain yn 2005, gyda’r sefydliad ar hyn o bryd yn dal dros 100 o'i brintiau yn ei gasgliad parhaol. Yn 2014, fe’i gwnaed yn Gymrawd Anrhydeddus o’r Gymdeithas Ffotograffiaeth Frenhinol.

Yn 2017, cyhoeddwyd ei lyfr, Survivor: A portrait of the survivors of the Holocaust, gan Octopus.Wedi’i ddisgrifio gan Martin Parr fel “rhywbeth i’w wir drysori…”, a gan Alain de Botton fel “campwaith a theimladwy iawn”, fe’i barnwyd hefyd yn un o 10 llyfr ffotograffiaeth gorau 2018 gan Sefydliad Kraszna-Krausz. Daeth ail lyfr Borden, Single Dad, allan yn 2021. Rhyddhawyd ei drydydd,On Divorce, gan The School of Life yn 2023.

Jenny Matthews

Jenny Matthews — Panos Pictures 

Denise Maxwell

Ganwyd a magwyd y ffotograffydd a gydnabyddir yn rhyngwladol Denise Maxell yn Walsall

ac mae wedi codi i amlygrwydd mewn nifer o rolau yn y sector cyhoeddus a'r trydydd sector.

Dechreuodd Denise ei gyrfa mewn ffotograffiaeth yn gweithio ar ddigwyddiadau a phortreadau. Blynyddoedd yn ddiweddarach mae ei phortffolio wedi ehangu i gynnwys sawl genre gan gynnwys chwaraeon (Athletau’r Diamond League), ffasiwn (Wythnos Ffasiwn Llundain), priodasau, carped coch, portreadau, cerddoriaeth, bwyd a digwyddiadau.Hyd yma, mae ei gyrfa lwyddiannus amrywiol wedi caniatau iddi ffotograffu rhai o’r bobl a’r digwyddiadau mwyaf adnabyddus yn y byd gan gynnwys unigolion fel Barack Obama, Usain Bolt, Tom Hanks ac Oprah Winfrey.

Mae hi wedi gweithio ar ddigwyddiadau megis Wythnos Ffasiwn Llundain, y Brits a’r BAFTAs ac mae ganddi restr gleientiaid sydd bellach yn cynnwys y BBC, Gumtree, Wates Construction ac Armani. Mae ei gwaith wedi ymddangos yn Vogue, yr Independent, y Guardian a chyhoeddiadau blaenllaw eraill. Mae hi wedi ymddangos ar raglenni’r BBC dwywaith eleni.

Mae bywyd proffesiynol Denise hefyd yn cynnwys dysgu yng Ngholeg Sandwell a Phrifysgol Birmingham

Liam McBurney

Mae Liam McBurney yn Ffotograffydd y Wasg arobryn sydd wedi gweithio yn y diwydiant papurau newydd dros y deng mlynedd diwethaf.Ar hyn o bryd mae’n gweithio i’r Belfast Telegraph a Sunday Life. Ers chwe blynedd mae wedi bod yn ohebydd lleol i Gymdeithas y Wasg yn Iwerddon, yn gweithio ar y newyddion diweddaraf, erthyglau nodwedd a chwaraeon.

Joel Goodman  

Mae Joel Goodman yn ffoto-ohebydd llawrydd sy’n gweithio yn y DU ym maes newyddion,erthyglau nodwedd a rhaglenni dogfen, yn uniongyrchol i gleientiaid ac allfeydd newyddion. Mae ei luniau hefyd yn cael eu cynrychioli gan yr asiantaeth London News Pictures. Mae ei waith wedi cael ei gyhoeddi yn y wasg, cylchgronau ac ar y teledu ledled y byd. Mae’n aelod o Gymdeithas Brydeinig Ffotograffwyr y Wasg ac mae’n credu’n gryf mewn gwasg rydd ac agored, lle mae tyst ffotograffiaeth yn chwarae rhan hollbwysig mewn materion cyfoes ac wrth ddogfennu ein byd. Fel ffotograffydd mae'n hunan-ddysgedig. Yn ogystal, mae wedi'i hyfforddi gan NCTJ (Cyngor Cenedlaethol Hyfforddi Newyddiadurwyr) sefycorff hyfforddi a gydnabyddir yn rhyngwladol ar gyfer yr holl ffotonewyddiadurwyr yn y DU. Ochr yn ochr â’i brofiad ar y ffordd, yn gweithio ar straeon newyddion a digwyddiadau mewn pob math o amgylchedd, mae wedi gweithio fel Golygydd Lluniau i asiantaethau newyddion a’r Manchester Evening News.

Phillip Hatcher Moore

Mae Phil Hatcher-Moore yn ffoto-ohebydd annibynnol Prydeinig sy’n gweithio ar hyn o bryd yng Ngogledd Cymru.

Fe’i enwyd felFfotograffydd Newydd sy’n dod i’r Amlwg PDN 30yn 2014. Arddangoswyd ei waith o ddwyrain Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo yn yr ŵyl ffoto-newyddiaduraethVisa pour l'image yn Perpignan, Ffrainc in 2013, ac yn yr un flwyddyn derbyniodd Wobr Arbennig 9fed rheithgorDays Japan. Gweithiodd am bum mlynedd yn Nairobi, Cenia.

Mae Phil wedi gweithio’n llawrydd yn rheolaidd iAgence France-Presse (AFP), yn ogystal â chyfrannu at gyhoeddiadau rhyngwladol yn cynnwys y New York Times, Der SpiegelLe MondeLibération, y Guardian, a Vanity Fair (Italia).

Arweinir sesiynau C&A gan:

Sophie Batterbury

Sophie Batterbury yw Golygydd Lluniau The i Paper. Cyn hynny bu’n Bennaeth Lluniau i’r Independent.

Emyr Young

Mae Emyr Young yn ffotograffydd proffesiynol sy’n angerddol am rygbi a phêl-droed. Cyn troi’n broffesiynol yn 2002 gweithiodd fel actor, cyflwynydd ac artist llais.

Ffilm

Tish (15)

(Ffilm ddogfen. Cyfarwyddwr Paul Sng, 2023, 90 munud)

Portread teimladwy o’r ffotograffydd dogfen gymdeithasol a’r arloeswraig Tish Murtha, a ymroddodd ei bywyd i ddogfennu bywydau cymunedau dosbarth gweithiol yng Ngogledd-Ddwyrain Lloegr.Yn nodweddu llais Maxine Peake.

’portread gafaelgar o ffotograffydd angerddol Prydain yn Oes y Llymder’Y Guardian **

Arddangosfeydd:

TBC

Event Image

Dates & Tickets

Dydd Gwener 17 Hydref, 2025
18:00