Event Info
Bong Joon Ho, De Corea / UDA 2025, AD, 137 munud
Mae’r ffilm gyffro newydd oddi wrth gyfarwyddwr Parasite yn gomedi ddu glyfar, ddoniol a dychanol yn serennu Robert Pattison fel gweithiwr ‘aberthadwy’ y disgwylir iddo ymgymryd â’r holl dasgau sy’n rhy beryglus i’r lleill, gan gael ei ail-glonio bob tro y caiff ei ladd gyda’r rhan fwyaf o’i atgofion yn aros.Ond pan ragdybir ei fod yn farw trwy gamgymeriad, mae Mickey yn darganfod ei fod eisoes wedi cael ei glonio a rhaid i’r fersiynau blaenorol a chyfredol weithio allan sut i gyd-fodoli…