Event Info
Eleni mae Gŵyl Ffilm WOW yn 24 oed, yn dathlu’r gorau oll o sinema Cymru a’r byd.
Rhwng 28 Mawrth a 4 Ebrill 2025, byddwn yn dod â hudoliaeth ffilm i ‘gartref’ ein gŵyl, Aberystwyth.
Byddwn yn dangos amrywiaeth gyfoethog o ffilmiau sy’n amlygu talent leol a straeon byd-eang.
Ymunwch â ni wrth i ni ddathlu 24 mlynedd anhygoel o WOW - a grym sinema i gysylltu ac ysbrydoli.
** Prynwch eich Pas ‘nawr: Am £91.50 cewch fynediad i bob ffilm WOW a ddangosir yng Nghanolfan y Celfyddydau **
Mae’r Pas yn cynnwys pob un o’r 21 ffilm ond am ‘Portrait of Teresa’ y gellir ei harchebu ar wahân.
Wrth archebu, rhowch wybod i'r Swyddfa Docynnau pa sedd sydd orau gennych ac os oes gennych unrhyw anghenion mynediad.