Event Info
Cyfarwyddwr: Noemi Merlant Ffrainc, 2024 - 104 munud
Dechrau ar amser - dim hysbysebion
Ffrangeg gydag isdeitlau Saesneg
Gŵyl Ffilm Abertoir yn Cyflwyno:
Wrth i dywydd poeth ddod â chymdogaeth Marseille i'r berw, o’u balconi, mae tri chyd-letywr yn mwynhau ymyrryd ym mywydau eu cymdogion. Hyd nes i ddiod hwyrnos droi yn garwriaeth waedlyd. Gan ymddangos i ddechrau fel fersiwn ffeministaidd ar ‘Rear Window,’ mae’r erchyllterau a ddarlunnir yn ‘The Balconettes’ yn rhai poenus o real, ac o’r rheiny daw’r curiad calon cynddeiriog sydd wrth wraidd y ffilm. A hithau’n ymgorffori trosiadau o ffilmiau arswyd, comedïau gwallgof a sinema gelf, mae The Balconettes yn ffilm gomig, hynod o fyw sy'n gwyro genres. Mae Noemi Merlant (Portrait of a Lady on Fire) yn cyfarwyddo a hefyd yn serennu yn yr herfeiddiad chwyrn hwn o gasineb at wragedd.
“A punk fable shatters #MeToo taboos. Exploring questions of coercion and consent with a healthy dose of blood and guts, The Balconettes entertains and energizes in equal measure.” - Variety
“Ghost story, body horror, feminist comedy. Noémie Merlant, familiar as a fine actress from Céline Sciamma's Portrait of a Lady on Fire, packs a good deal into her sophomore feature as director. Pedro Almodovar looms over all these shenanigans, which could be read as “Women on the Verge of Heat Exhaustion.” - Deadline
Anghenion Mynediad: A wnewch chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw anghenion mynediad a fyddai’n gofyn am seddi addas, neu os oes angen lle priodol i gadair olwyn yn yr awditoriwm.
18: Mae'r ffilm hon wedi cael ei chofrestru "18". Mae hynny'n golygu ei fod yn anaddas i unrhyw un sy'n iau na hynny. Mae'n drosedd caniatáu i unrhyw ei weld o dan yr oedran hwnnw, felly os nad ydych chi'n edrych yn ddigon hen, bydd angen gwireddiad oedran priodol arnoch i fynd i mewn. Diolch yn fawr a mwynhewch y ffilm.