Ewch at gynnwys
Event Image
Mer 9 Ebr
·
Teulu

Event Info

Canllaw Oedran: 0 - 3 oed

Rhediad: 35 munud + 10 munud o chwarae

Cynhyrchiad Theatr Little Angel

Ymunwch â Persephone a'i ffrindiau wrth iddynt eich tywys chi a'ch babanod trwy'r newidiadau ym myd natur, gan gasglu pethau ar y ffordd .....

Clywch drydar llawen robin goch wrth i'r dyddiau oeri.  A fedrwch ddal pluen eira?  Hopiwch gyda chwningen trwy ddolydd blodeuog a theimlwch sblash cawod Ebrill ar eich wyneb.  Cewch hedfan gyda glöyn byw yn haul yr haf - a fedrwch ddal pelydryn haul?  Gwyliwch y dail yn newid wrth i ddraenog snwffio heibio, a gwelwch a fedrwch ddal y gwynt.

Mae Persephone yn archwiliad synhwyraidd ysgafn o'r tymhorau, sy'n berffaith ar gyfer babanod a phlant bach.

Anghenion Mynediad: A wnewch chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw anghenion mynediad a fyddai’n gofyn am seddi addas, neu os oes angen lle priodol i gadair olwyn yn yr awditoriwm.

Event Image

Dates & Tickets

Dydd Mercher 09 Ebrill, 2025
09:00
Dydd Mercher 09 Ebrill, 2025
10:45
Dydd Mercher 09 Ebrill, 2025
13:30