Event Info
Canllaw Oedran:5+ / teuluoedd
Trefn Amseri:60 munud - dim toriad
Roald Dahl - Dychmygwch!
gan Anni Llyn
Mae Alf yn gymeriad lliwgar, diddorol, sy'n CARU darllen. Yn ei got amryliw , sy'n llond pocedi ar gyfer ei lyfrau, bydd Alf yn rhannu gyda'r plant ei gariad tuag at ddarllen, ac yn datgelu'r anturiaethau sy'n digwydd iddo pan mae'n dechrau darllen. Ei hoff awdur yn y byd yw Roald Dahl. Un llyfr ar y tro, bydd Alf yn cyflwyno rhai o straeon yr awdur ac yn darllen ei hoff ddarnau. Yna, bydd ei ddychymyg yn dechrau crwydro, a bydd yn dangos i'r plant sut mae darllen straeon fel hyn yn gwneud iddo neud pethau dwl eraill - a dyna gychwyn ar yr hwyl!
Iaith y perfformaid: Saesneg
Anghenion Mynediad: A wnewch chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw anghenion mynediad a fyddai’n gofyn am seddi addas, neu os oes angen lle priodol i gadair olwyn yn yr awditoriwm.