Ewch at gynnwys
Event Image
Iau 17 Ebr
·
Teulu

Event Info

Canllaw Oedran: 5+ / teuluoedd

Trefn Amseri: 60 munud - dim toriad

Roald Dahl - Dychmygwch!

gan Anni Llyn

Mae Alf yn gymeriad lliwgar, diddorol, sy'n CARU darllen. Yn ei got amryliw , sy'n llond pocedi ar gyfer ei lyfrau, bydd Alf yn rhannu gyda'r plant ei gariad tuag at ddarllen, ac yn datgelu'r anturiaethau sy'n digwydd iddo pan mae'n dechrau darllen. Ei hoff awdur yn y byd yw Roald Dahl. Un llyfr ar y tro, bydd Alf yn cyflwyno rhai o straeon yr awdur ac yn darllen ei hoff ddarnau. Yna, bydd ei ddychymyg yn dechrau crwydro, a bydd yn dangos i'r plant sut mae darllen straeon fel hyn yn gwneud iddo neud pethau dwl eraill - a dyna gychwyn ar yr hwyl!

Iaith y perfformaid: Cymraeg

Anghenion Mynediad: A wnewch chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw anghenion mynediad a fyddai’n gofyn am seddi addas, neu os oes angen lle priodol i gadair olwyn yn yr awditoriwm.

Event Image

Dates & Tickets

Dydd Iau 17 Ebrill, 2025
10:00