Ewch at gynnwys
Event Image
Gwe 4 Ebr
·
Comedi

Event Info

Canllaw Oedran: 14+ oed

Rhediad: 45 munud / toriad 20 munud / 45 munud

Rhywle mewn bydysawd cyfochrog cafodd sgiliau perfformio comedïaidd naturiol Alfie eu cydnabod gan ei rieni dotlyd a fu’n annog ei dalent ddatblygol. Ar ôl sawl blwyddyn fel cnaf bach yr ysgol lwyfan, lansiwyd wyneb angylaidd Alfie ar y llwyfan a’r sgrîn ac mae’r gweddill yn hanes.

Yn y cyfamser, yn y bydysawd hwn, cynghorwyd Alfie Moore i roi’r gorau i chwarae o gwmpas yn y dosbarth cyn cael ei ‘annog’ i ymuno â byd brwnt, diflas prentisiaeth yng ngweithfeydd dur Sheffield. Pan ddaeth y dirwasgiad bu’n cyfnewid dur am gopr trwy ymuno ag Heddlu Humberside.

‘Roedd deng mlynedd ar hugain o waith sifft, yn gyntaf yng ngweithfeydd dur Sheffield ac wedyn fel plismon ar y strydoedd (lle cafodd ei ddyrnu yn ei wyneb sawl tro), wedi’i adael gydag ‘wyneb i’r radio’. Wyneb oedd â stori, ond nad oedd wedi cael llawer o sylw o ran cynnal a chadw!

Yn ei 40au bu newid annisgwyl yn ei yrfa yn troi’r Alfie canol oed o fod yn blismon i fod yn seren radio gyda'r BBC. Ond pan ‘roedd enwogrwydd teledu yn galw a fyddai’n medru manteisio ar y cyfle neu a oedd yn rhy hwyr?

“…gwahanol, dadlennol ac yn ddoniol iawn” You Magazine

“…yn gwbl ddifyr, yn ddoniol drosben. Mae ei garisma yn disgleirio drwodd mor llachar a lliwgar â golau glas yn chwyrlïo.” Mature Times

Canllawiau Cynnwys: Ychydig o iaith cryf cyd-destunol

Anghenion Mynediad: A wnewch chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw anghenion mynediad a fyddai’n gofyn am seddi addas, neu os oes angen lle priodol i gadair olwyn yn yr awditoriwm.

Event Image

Dates & Tickets

Dydd Gwener 04 Ebrill, 2025
18:30