Event Info
Canllaw Oedran: 8+ oed
Rhediad: 60 munud - dim toriad
Cynhyrchiad Lichfield Garrick
MICHAEL MORPURGO’S FARM BOY
Addaswyd a chyfarwyddwyd gan Daniel Buckroyd.
‘Roedd yn teimlo weithiau bod amser wedi sefyll yn llonydd ar y fferm - yr hen dractor Fordson yn rhydu'n dawel yng nghefn yr ysgubor, Taid yn gofalu am ei ieir - hynny yw, tan yr haf y daeth ei ŵyr i aros, a dechreuodd yr hen ŵr adrodd straeon am sut oedd pethau ar y fferm pan oedd ef yn fachgen.
Yn dilyn teithiau llwyddiannus o’r DU a rhediad clodwiw yn Efrog Newydd, mae dilyniant cymhellol Michael Morpurgo i ‘War Horse’ yn dychwelyd i’r llwyfan yn y sioe hyfryd, deuluol hon sy’n cyfuno drama, adrodd straeon a cherddoriaeth wreiddiol - disgrifiad teimladwy, wedi’i saernïo’n gelfydd, o newidiadau yng nghefn gwlad Lloegr sy’n ein hatgoffa y gall straeon o ddifrif estyn allan ar draws y cenedlaethau.
Tîm Creadigol
Cyfansoddwr Gwreiddiol - Matt Marks
Cyfarwyddo a Threfniannau Cerddorol - John Chambers
Dyluniad Set a Gwisgoedd - Fi Russell
Dyluniad Goleuo - Barry Smith
Cysylltwch â'r Swyddfa Docynnau am archeb i ysgolion: Plentyn £10/Athro Am Ddim
Anghenion Mynediad: A wnewch chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw anghenion mynediad a fyddai’n gofyn am seddi addas, neu os oes angen lle priodol i gadair olwyn yn yr awditoriwm.