Event Info
Canllaw Oedran: Addas i bawb
Rhediad:50 munud/toriad 20 munud/50 munud
Cymysgedd gwych o gerddoriaeth Bwylaidd fodern, klezmer, jas cyfoes a cherddoriaeth glasurol siambr yn dychwelyd i’r DU yn ystod gwanwyn ’25 ar gyfer taith 16-dyddiad.
“Yr hyn sy’n fy nhynnu i mewn i gerddoriaeth Kroke mor llwyddiannus yw’r realiti ysbrydol sydd ganddyn’ nhw… y gonestrwydd a’r diffuantrwydd yn eu cerddoriaeth.” - NIGEL KENNEDY
Mae’n bleser mawr gan Mwldan gyflwyno taith 16-dyddiad o amgylch y DU gan un o driawdau mwyaf clodwiw Gwlad Pwyl sef Kroke.
Bydd Kroke (Iddew-Almaeneg am Kraków) yn perfformio’r gorau o ganeuon mwyaf poblogaidd y band dros yrfa syfrdanol o 30 mlynedd.
Wedi'i ffurfio ym 1992 gan dri chyfaill - Tomasz Kukrba, Jerzy Bawof a Tomasz Lato, graddedigion o’r Academi Gerddoriaeth yn Krakow, ‘roedd Kroke yn gysylltiedig yn wreiddiol â cherddoriaeth klezmer gyda dylanwadau Balcanaidd cryf. Erbyn heddiw mae’r triawd wedi’u dylanwadu’n drwm gan jas, cerddoriaeth gyfoes ac ethnig wedi’u trwytho gyda’u gwaith byrfyfyr syfrdanol eu hunain, ac maent wedi datblygu arddull hollol unigryw sydd wedi arwain at wahoddiadau i gydweithio gydag artistiaid rhyngwladol o fri, gan ddifyrru cynulleidfaoedd ledled y byd.
“Mae Kroke yn chwarae’n fyw yn brofiad gwbl wych.” - JON LUSK, BBC RADIO 3
“Mae Kroke, band klezmer o Wlad Pwyl, yn drysor. ….. maent yn symud y tu hwnt i fywiog tuag at sain epig sydd weithiau’n histrionig ond hefyd yn hynod deimladwy. Yn ogystal, nhw yw’r act fwyaf cŵl yn weledol ar y sîn” - WOMAD ON KROKE
Instagram: @kroke_official
Facebook: https://www.facebook.com/kroke.trio/
Website: www.kroke.pl
Anghenion Mynediad: A wnewch chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw anghenion mynediad a fyddai’n gofyn am seddi addas, neu os oes angen lle priodol i gadair olwyn yn yr awditoriwm.