Event Info
Dydd Mercher 18 Mehefin, 2025 am 10yb + 1yp
Ymunwch â Byrti a Bwbw wrth iddyn nhw sgleinio’r lleuad! Ond pam mae Pwnîc yn dweud wrth y ddau am beidio gwneud hynny? O diar, bydd y byd i gyd yn dywyll! Yna, mae rhywbeth hudolus iawn yn digwydd….
Tocynnau: Oedolyn £10 Plentyn £7 (1 athro am ddim gyda phob 10 disgybl pan fydd ysgol yn archebu)
Canllaw Oedran: 3 -8 oed - Mae’r cynhyrchiad yn addasiad o lyfr Caryl Lewis sydd wedi ei dargedu at yr oedran hwn
Rhediad: 50 munud - dim toriad
I archebu tocyn, cysylltwch â Arad Goch: Anne@aradgoch.org/ 01970 617998
Anghenion Mynediad: A wnewch chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw anghenion mynediad a fyddai’n gofyn am seddi addas, neu os oes angen lle priodol i gadair olwyn yn yr awditoriwm.