Event Info
Dr. Strangelove 15 (TBC)
Cyd-addaswyd gan Armando Iannucci
Cyd-addaswyd a chyfarwythwyd gan Sean Foley
Dechrau ar amser - dim hysbysebion
Mae Steve Coogan (Alan Partridge, The Trip) sy’n enillydd saith gwobr BAFTA yn chwarae pedair rôl yn yr addasiad llwyfan cyntaf yn y byd o gampwaith comedi Stanley Kubrick, Dr.
Strangelove.
Pan mae Cadfridog Americanaidd twyllodrus yn sbarduno ymosodiad niwclear, mae ras swrrealaidd yn dilyn, sy’n gweld y Llywodraeth ac un gwyddonydd ecsentrig yn brwydro i osgoi dinistr byd-eang. Arweinir y dychan ffrwydrol doniol hwn gan dîm creadigol byd-enwog sy’n cynnwys yr enillydd Gwobr Emmy Armando Iannucci (The Thick of It, Veep) a’r enillydd Gwobr Olivier Sean Foley (The Upstart Crow, The Play What I Wrote).