Event Info
Laurent Tirard, Ffrainc 2022, 87 munud, is-deitlau
Pan mae’r cartref nyrsio lleol yn ffeindio’i hun mewn cyfyngder enbyd ac mewn perygl o syrthio’n ddarnau, mae’r Fam Veronique a chwiorydd ecsentrig lleiandy St Benedict yn edrych am ffordd i helpu.Pan maent yn gweld poster yn hysbysebu ras feiciau gyda gwobr ariannol o €25,000 (a thaith i'r Fatican i'r enillydd), efallai dyma’r ateb y mae’r chwiorydd wedi bod yn chwilio amdano. Yr unig broblem yw eu bod yn feicwyr ofnadwy, ac mae gan leiandy cystadleuol eu cynlluniau hwythau i ennill yr arian… Yn ddoniol ac yn ysgafn, mae hon yn gomedi Ffrengig hyfryd a gwirion, wedi’i gosod yn erbyn cefndir prydferth rhanbarth Jura yn Ffrainc.