Event Info
Cyngyrchiad Haf 2025 gan Canbolfan y Celfyddydau Aberystwyth
The Wizard of Oz - Perfformiad Ymlaciol
Yn ystod y perfformiad ymlaciol, gwneir rhai newidiadau technegol i’r perfformiad gan gynnwys cerddoriaeth dawelach, lleihau effeithiau sain swnllyd neu annisgwyl, a chadw’r goleuadau ymlaen yn y theatr ar gyfer cynulleidfaoedd. Byddwn yn darparu gwybodaeth ymlaen llaw i egluro beth i'w ddisgwyl, ynghyd â lluniau o'r lleoliad. Peidiwch â phoeni os oes angen i chi fynd i mewn ac allan o’r theatr yn ystod y perfformiad, bydd tîm cyfeillgar Canolfan y Celfyddydau ar gael i roi unrhyw gymorth sydd ei angen arnoch.
Cyfarwyddwr Richard Cheshire
Cyfarwyddwr Cerddorol David Roper
‘Rydym ar ein ffordd i weld y Dewin!
Ymunwch â ni ar yYellow Brick Road a thros yr enfys i Wlad Oz, lle ymunir â Dorothy a’i chi ffyddlon Toto gan ffrindiau newydd sef y Bwgan Brain, y Gŵr Tun a’r Llew Llwfr wrth iddi geisio ffeindio’i ffordd adref.
Gyda chast proffesiynol a band byw, ‘rydym yn addo noson o gerddoriaeth fendigedig, gwrachod drygionus (a rhai da hefyd), a’r gwerthoedd cynhyrchu uchel y mae Sioeau Haf Canolfan y Celfyddydau yn adnabyddus amdanynt.
Os oeddech wedi mwynhau Wicked,wel dewch draw i weld beth ddigwyddodd nesaf…
Perfformiad BSL ar Ddydd Sadwrn, 23 Awst 7yh - ARCHEBWCH YMA
Mwy o berfformiadau o'r 8 - 30 Awst - ARCHEBWCH YMA
Canllaw Oedran:Addas i bawb
Rhediad: I’w ddilyn
Anghenion Mynediad: A wnewch chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw anghenion mynediad a fyddai’n gofyn am seddi addas, neu os oes angen lle priodol i gadair olwyn yn yr awditoriwm.