Mai 6ed 2025 10 yb – 2 yp
Digwyddiad rhyngddisgyblaethol yn ymateb i’r thema manifesto
Tethiau tywys – Un awr o 11:00am ac 1:00pm
Mai 6ed, bydd myfyrwyr o Ysgol Gelf y Brifysgol yn cyflwyno digwyddiad Meddiannu. Yn ystod y digwyddiad hwn bydd myfyrwyr yn ymateb i Ganolfan y Celfyddydau trwy osod eu prosiectau rhyngweithiol o fewn ac o gwmpas yr adeilad gan wneud hynny’n gynnil ac yn agored. Mae’r arddangosfa yn dangos perfformiadau, cerfluniau, ffotograffiaeth, celf ddigidol a gwaith yn seiliedig ar destun sy’n ymateb i’r thema Maniffesto. Ymunwch â ni am luniaeth a theithiau o gwmpas yr arddangosfa a chyfle i gwrdd â’r artistiaid – croeso i bawb!
