Event Info
Yn serennu Jeremy Jordan a enwebwyd ar gyfer gwobr Tony a Frances Mayli McCann a enwebwyd ar gyfer gwobr Olivier, mae’r cynhyrchiad arobryn hwn (gan gynnwys y Sioe Gerdd Newydd Orau - Gwobrau What’s On Stage 2023) yn ail-adrodd y stori wir anghredadwy am gwpl gwaharddedig mwyaf drwgenwog America. Wedi’i recordio’n fyw yn y Theatre Royal Drury Lane yn Llundain, darganfyddwch y stori wefreiddiol hon am gariad, antur a throsedd a ddaliodd sylw cenedl gyfan.
150 munud, gan gynnwys egwyl.