Event Info
Louise Courvoisier, Ffrainc 2024, 92 munud, is-deitlau
Mae’r ffilm Ffrengig boblogaidd hynod lwyddiannus hon, sydd wedi’i lleoli yn ardal brydferth Jura, yn dilyn bachgen ifanc yn ei arddegau sy’n gweld ei ddull stwrllyd a dihidio o fyw yn dod i ben yn sydynpan mae’n ffeindio’i ei hun yn gorfod gofalu am ei chwaer 7 oed ar yfferm deuluol sydd mewn trafferthion.Gan fod angen dod o hyd i ffordd o wneud arian ar frys, mae'n setlo ar gynllun i gynhyrchu’r caws Comté gorau yn yr ardal - gyda’i lygad ar y wobr o 30,000 Ewro a ddaw yn sgil hyn.Golwg ddiffuant a thosturiol ar ffordd o fyw wledig Ffrainc, cryfder teuluol ac, wrth gwrs, cariad tuag at gaws.
15: Mae'r ffilm hon wedi cael ei chofrestru "15". Mae hynny'n golygu ei fod yn anaddas i unrhyw un sy'n iau na hynny. Mae'n drosedd caniatáu i unrhyw ei weld o dan yr oedran hwnnw, felly os nad ydych chi'n edrych yn ddigon hen, bydd angen gwireddiad oedran priodol arnoch i fynd i mewn. Diolch yn fawr a mwynhewch y ffilm.