Event Info
Mae clasur cwlt gwyllt David Lynch yn serennu Nicolas Cage a Laura Dern yn y stori am ddau gariad, Sailor a Lula, sy'n brwydro i aros gyda'i gilydd hyd yn oed pan mae tynged yn ymddangos yn benderfynol o'u cadw ar wahân. Yn yr achos hwn mam Lula, Marietta Fortune, dynes gynddeiriog sy'n casáu Sailor ac sy’n barod i wneud unrhyw beth i'w gadw oddi wrth ei merch, yw’r broblem.Ar ôl i Sailor gael ei ryddhau o'r carchar am lofruddio dyn mewn hunan-amddiffyniad, mae ef a Lula yn cychwyn ar daith wyllt llawn adrenalin a rhyw, yn ymwybodol drwy'r amser eu bod yn cael eu hela gan griw Marietta.