Event Info
Wes Anderson, UDA 2025, AD, 101 munud
HOH : Dangosiad gydag isdeitlau ar 2ail o Fehefini am 6.15yp
Mae ffilm newydd sbon Wes Anderson yn fympwyol, yn ddoniol ac yn unigryw, yn yr holl ffyrdd yr ydym yn disgwyl yn ei ffilmiau. Mae Benicio Del Toro yn serennu fel biliwnydd sy’n dad i naw o fechgyn ac un lleian. Ar ôl i’w chweched damwain awyren wneud iddo feddwl na fydd ei lwc yn para am byth, mae’n penderfynu gadael ei holl gyfoeth i’w ferch - cyn belled nad yw ei elynion yn ennill y blaen arno.Ceir yma cynllwynio, ysbïo a chast anhygoel sy'n cynnwys Richard Ayoade, Tom Hanks, Scarlett Johansson a Benedict Cumberbatch (ymysg llawer mwy).