Event Info
Mae Adran Theatr, Ffilm a Theledu yn cyhoeddi:
'Finalsfest25'
Perfformiadau Unigol gan Fyfyrwyr 3ydd Flwyddyn BA Ddrama a Theatr
The Last Generation to Play Outside
Emmie-Rose Richards
I archebu lle, e-bostiwch: emr60@aber.ac.uk
13:00 & 16:30 21 Mai + 13:00 & 16:30 22 Mai
Antur trwy Parc Natur Penglais ( Coedwig Bluebell Woods)
Mae The Last Generation to Play Outside yn berfformiad theatr yn Saesneg gan Emmie-Rose Richards a grëwyd fel rhan o’i gradd Drama a Theatr ym Mhrifysgol Aberystwyth. Anelir y perfformiad at deuluoedd gyda phlant 6-10 oed, ond am resymau diogelwch, rhaid i gyfranogwyr fod yn 18 oed neu'n hŷn. Gwahoddir y gynulleidfa i gymryd rhan mewn antur gyffrous trwy Goed Penglais sy’n ceisio pwysleisio pwysigrwydd chwarae ac ymgysylltu â’r awyr agored trwy gyfres o weithgareddau hwyliog. Cynhelir y perfformiad am 1pm ar yr 21ain a’r 22ain o Fai a bydd yn para tua 30 munud. Byddwn yn cyfarfod ar y bont wrth y fynedfa i’r goedwig ar Riw Penglais, sydd gyferbyn â phrif fynedfa Prifysgol Aberystwyth, ac yna byddwn yn teithio trwy’r coed gyda’n gilydd. Y côd post ar gyfer mynediad y brifysgol yw SY23 3FL.
Gwybodaeth Allweddol:
Mae’r llwybr y byddwn yn ei ddilyn trwy’r coed yn anwastad mewn mannau, felly argymhellir bod holl aelodau’r gynulleidfa’n gwisgo esgidiau cadarn. Os yw’r tywydd yn anffafriol, mae’n bosibl y bydd y llwybr yn fwdlyd, felly dylai aelodau’r gynulleidfa wisgo’n briodol ar gyfer y tywydd. Peidiwch ag anghofio eich welingtons os yw'n bwrw glaw a'ch eli haul os yw'n heulog! Oherwydd y tir anwastad, nid yw'r perfformiad yn addas ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn neu'r sawl sydd â symudedd cyfyngedig.