Event Info
Canllaw Oedran: 12+ oed
Rhediad: 75 munud dim toriad gyda Sqwrs wedi'r Sioe (yn y stiwdio)
Mae'r ddrama A Visit am drosedd, cyfiawnder a gofal, sy'n holi cwestiynau am bwy sydd i ofalu am y plant pan gaiff mam ei charcharu.
Wedi ei ysbrydoli gan straeon go iawn menywod a phobol ifanc y buon nhw'n cydweithio gyda, mae Papertrail a Siân Owen wedi creu darn gafaelgar o theatr.
Mae pob perfformiad yn cynnwys capsiynau integredig a dau Dehonglwyr Perfformiad Iaith Arwyddion Prydain: Claire Anderson a Cathryn McShane.
Iaith y perfformiad: Saesneg a BSL gyda Geirfa yn ymddangos yn rhan o'r perfformiad
Mae'r dehongliad BSL wedi'i leoli'n ganolog ac yn gweithredu'r perfformiad. Rhoddir y dehongliad BSL gan Claire Anderson a Cathryn McShane.
Mae'r geirfa yn ymddangos ymysg y set ac yn cymryd lle canolog, uchel.
Canllawiau Cynnwys: Mae'r ddrama'n cynnwys cyfeiriadau at garcharu a chyflenwi cyffuriau anghyfreithlon.
Anghenion Mynediad: A wnewch chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw anghenion mynediad a fyddai’n gofyn am seddi addas, neu os oes angen lle priodol i gadair olwyn yn yr awditoriwm.